Y Bigwn

Mam a chyw Cnocell y Coed

Mam a chyw Cnocell y Coed

Pan dach chi’n dechrau meddwl yn ddwfn am fyd natur dach chi’n sylweddoli bod popeth yn ffitio efo’i gilydd fel jig-so enfawr. Dim ond rhywun fel Sir David Attenborough sydd â gobaith i osod pob darn yn ei le a dw i’n siŵr nad oes  ganddo fo ateb i bob cwestiwn. Meddyliwch am adar, yn fras, eu pwrpas nhw yw bwyta, ond mae rhai yn bwyta hadau, rhai yn bwyta pryfed genwair, eraill yn bwyta morgrug, rhai pysgod a rhai egsotig yn ffafrio neithdar. Pawb at y peth y bo! Ond beth bynnag yw’r rheswm bodoli mae’r Bod Mawr wedi sicrhau bod eu cyrff yn addas at y pwrpas. I’r rhai sydd yn bwyta hadau caled mae O wedi rhoi pig groes iddyn nhw, pig hir i’r rhai sydd yn hoffi neithdar, ac yn y blaen. Ond ym mhob teulu mae rebel, rhywun sydd eisiau creu sŵn fel oedd yr hen grwpiau pync. Pwy ydyn nhw tybed? Wel hedbangar byd adar yw cnocellau’r coed. Mae’n aderyn ‘high impact’ go iawn. Mae’n mynd allan yn y bore a threulio’r diwrnod cyfan yn taro ei big i mewn i ryw goeden. Dychmygwch, mae o’n cyrraedd adref ac mae ei wraig yn gofyn “Sut fath o ddiwrnod wyt ti wedi cael, cariad?” A ydi o’n ateb “Paid â gofyn, mae gen i gur pen ofnadwy?” Wel na, dydi o ddim, mae'n dweud “O go dda w’st ti, mae’r diwrnod wedi bod braidd yn hir a’r gwaith yn ‘boring’ wrth gwrs, neis bod adra!”

Y peth yw, ac efallai nad ydych yn gwybod hyn ond, tu ôl i’w big mae math o ‘shock absorber’ felly does dim rhaid i’w wraig ddod â Paracetemols iddo ar ddiwedd pob dydd, clyfar ynte!

Yn ddiweddar, wrth fynd i’r gegin efo llestri i olchi gwelais i gnocellau’r coed ar y lawnt, y fam a’r cyw. Roedd y fam yn brysur yn dangos i’r cyw sut i chwilio am bryfed genwair. Roedd hyn yn gyfle rhy dda i golli ac es i i nôl y camera a dechrau tynnu lluniau ohonyn nhw trwy’r ffenest. Doedd y cyw ddim yn cael llawer o lwc ac yn sydyn dyma’r fam yn troi ato a stwffio ei phig i mewn i’w geg, doeddwn i ddim yn disgwyl tynnu llun o’r fath ac mae’n llun i’w werthfawrogi

Nid ydych yn gwybod am faint bydd adar yn aros yn yr un lle, pan dach chi’n gweld rhywbeth fel hyn mae'n rhaid i chi wneud penderfyniad, gadael y ffenest  a chwilio am y camera neu aros a mwynhau.  Dw i’n falch iawn fy mod i wedi tynnu’r llun yma, fy mod i wedi dewis mynd i nôl y camera. Pan nes i adael y ffenest dim ond dau aderyn oedd yna, digon diddorol ond petaswn i wedi aros a gweld hyn mi fydda i wedi difaru peidio mynd i nôl y camera.