
Y Llyfrgell
Erbyn hyn mae Llyfrgell Dinbych yn cynnig y cyfle i ymweld unwaith eto - trwy apwyntiad yn unig er mwyn sicrhau diogelwch i gwsmeriaid a’r staff. Cysylltwch gyda’r llyfrgell dros y ffôn i drefnu apwyntiad i ddod mewn i bori am lyfrau, i ddefnyddio cyfrifiadur ac argraffu, i lun-gopïo neu i ddefnyddio’r Siop Un Alwad. Mae’r drefn yn y llyfrgell ychydig yn wahanol er mwyn sicrhau digon o le i bawb fod yn ddiogel, fe fydd cyfyngiadau amser i bob apwyntiad - ond fe fydd y croeso cynnes dal run peth ag erioed ac fe edrychwn ymlaen at eich gweld!
Archebu a Chasglu
Os nad ydych yn dymuno ymweld â’r llyfrgell, gallwch archebu llyfrau dros y ffôn neu ar-lein a chael apwyntiad i ddod i’w casglu. Gallwn ni hefyd drefnu eu danfon am ddim i’ch cartref os na fedrwch ddod mewn. Mae Gwasanaeth Llyfrgell Cartref hefyd yn cynnig gwasanaeth yn uniongyrchol i’ch cartref. Cysylltwch â’ch llyfrgell am ragor o fanylion neu i archebu.
Llyfrgell Ddigidol
Trwy gydol y cyfnod clo, mae’r gwasanaeth Llyfrgell wedi parhau i gynnig gwasanaeth i’r gymuned leol, er bod ein hadeiladau wedi bod ar gau. Mae’r Llyfrgell Ddigidol wedi bod yn hynod boblogaidd gyda channoedd yn lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar o Borrowbox, a chylchgronau a phapurau newydd drwy PressReader ac RBdigital - wyddoch chi fod llawer o lyfrau a chylchgronau Cymraeg ar gael ar y platfformau yma? Bu nifer hefyd yn defnyddio Ancestry ar-lein o adref. Mae’r cyfan ar gael am ddim trwy wefan y Cyngor www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd ac fe allwch ymaelodi ar-lein yma hefyd.
Dechrau da
Bu’r tîm Dechrau Da yn cynnal Amser Rhigwm i’r plant lleiaf yn fyw ar Facebook bob wythnos ac yn recordio sesiynau o rigymau a storïau ar eu sianel YouTube. Mae modd i deuluoedd gyda phlant 0-3 oed gasglu pecyn Dechrau Da am ddim o’r llyfrgell hefyd.
