Beth wnaethoch chi yn ystod y cyfnod clo? Dyna fydd ein gor-wyrion yn gofyn i ni yn y dyfodol pell. Dw i’n darllen yn y papurau bod rhai wedi sefydlu gwefannau newydd a chreu busnesau i werthu pethau maen nhw’n cynhyrchu yn y tŷ. Rhai wedi penderfynu dysgu iaith newydd, llawer wedi dewis Cymraeg i ddysgu. Diolch a phob lwc iddyn nhw. Eraill yn ail afael ar y grefft o goginio neu gerdded mwy, o fewn y rheolau wrth gwrs.
Beth dach chi wedi gwneud?
Y peth cyntaf wnes i oedd archebu llyfrau, tua hanner dwsin. Llawer digon i fy nghadw i fynd dros y tair wythnos roedd y cyfnod yn mynd i barhau. Yr unig beth allaf fi ddweud yw roedd y tair wythnos yna braidd yn hir! Er dw i wrth fy modd yn darllen ni allaf eistedd mewn cadair a darllen am fwy nag awr a hanner heb ddechrau pendwmpian. Beth arall allwn i wneud? Yn raddol ddoth y syniad i fy mhen o atgyfodi cylchlythyr i ddysgwyr roeddwn i wedi sefydlu tuag ugain mlynedd yn ôl.
Yn fy siwrne hir yn ôl at yr Iaith es i ar gwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol yng Nghanolfan Iaith Gregynog. Roedd y profiad yn bwysig iawn, ces i’r cyfle i siarad Cymraeg yn rheolaidd ac yn y pendraw ces i’r cyfle i fod yn diwtor. Sylweddolais fod addysgu yn ffordd effeithiol iawn er mwyn dysgu.
Yn ystod fy nghyfnod ar y cwrs roedd Gregynog yn cael warden newydd, un ddi-gymraeg ac roedd pobl yn poeni am ddyfodol y Ganolfan Iaith. Mi wnaeth rhai ohonom ni sefydlu Cyfeillion Canolfan Iaith Gregynog a chan roedd gen i fusnes argraffu ar y pryd nes i sefydlu cylchlythyr o’r enw Y Wennol. Gan roeddwn i ar gwrs ysgrifennu Cymraeg creadigol roedd llawer o bobl i gyfrannu ac roedd tiwtoriaid yn anfon gwaith eu dysgwyr ataf fi. Aeth Y Wennol ymlaen am ychydig o flynyddoedd tan i mi symud i fyw yn Abertawe er mwyn fod yn agosaf at fy rhieni. Efo’r dechnoleg wedi symud ymlaen roeddwn i’n teimlo’n ffyddiog roeddwn i’n gallu atgyfodi’r Wennol.
Ychydig o fisoedd ynghynt roeddwn i wedi cyfarfod â grŵp o ddysgwyr a oedd yn cyfarfod yng Nghaffi’r Three Cliffs yn wythnosol. Gofynnais iddyn nhw a fydden nhw’n fodlon ysgrifennu erthyglau a ches i ddigon i gael y rhifyn cyntaf allan erbyn diwedd y mis. Erbyn hyn mae chwe rhifyn wedi gweld golau dydd ac mae pedwar o ddysgwyr yn cyfrannu’n gyson. Mae'r profiad o ysgrifennu yn un werthfawr iawn i ddysgwyr, mae’r ffaith bod nhw’n treulio amser i roi eu meddyliau at ei gilydd i ysgrifennu yn datblygu ei sgiliau siarad hefyd. Mae hynny yn rhoi hyder iddyn nhw a lleihau’r pwysau arnyn nhw pan maen nhw’n sgwrsio. Mae’r profiad o roi’r cylchlythyr at ei gilydd pob mis wedi fy atgoffa fi o’r safon mae dysgwyr yn gallu cyrraedd a’u brwdfrydedd i ddefnyddio’r iaith. Dw i’n ail fyw'r pleser roeddwn i’n cael wrth weithio ar Y Wennol wreiddiol.
Felly Cymry Cymraeg neu ddysgwyr mae’n werth darllen Y Wennol, byddwch yn gweld yn syth pa mor dalentog mae dysgwyr yn gallu fod. Dyma’r rhifyn diweddaraf :
Y Wennol Cyfrol 1 Rhifyn 6. Mae croeso mawr i unrhyw gyfraniad o unrhyw lefel o ddysgu, ac mi fydda i’n hapus i ddanfon copi i unrhyw un sydd yn cysylltu â fi ar
Gwnewch hynny rŵan, cyn i chi anghofio!
Pob hwyl
Rob Evans
