Y Bigwn

 

Yr hen gar bach coch

Gan fy mod i wedi cael fy nghyhuddo o fod yn drwm a digalon yn y rhifyn diwethaf, roeddwn i’n meddwl y byddai’n well imi ysgrifennu rhywbeth ysgafnach y mis hwn.

Cysgu neu’n hytrach breuddwydio!

Ers blynyddoedd lawer mae’r un freuddwyd wedi aflonyddu ar fy nghwsg.

Yn y saithdegau roeddwn i’n berchen ar Volkswagen Beetle coch. Mae’n fwy na thebyg eich bod chi wedi nghlywed i’n sȏn amdano o’r blaen. Arwydd o henaint ydy hynny.

Wel, rhaid imi dd’eud nad oedd o’r car gorau a fu’n fy meddiant er mai fo ydy’r un rydwi’n ei gofio orau.

Roedd yn rhaid agor ffenest’ er mwyn i’r drws gyferbyn gau yn iawn. Weithiau roedd yn rhaid codi’r sedd gefn a ffidlan gydag un o’r ceblau a oedd yn cysylltu â’r batri cyn i’r hen wagen y werin ddangos unrhyw arwydd o fywyd.

Peth cas iawn oedd hynny pan oeddech chi’n rhoi lifft i ddau ac un ohonyn nhw’n eistedd yn y cefn.

Ta waeth am hynny. Fo ydy’r unig gar sydd yn ymddangos yn fy mreuddwydion, ac mae o wedi g’neud hynny yn achlysurol dros y blynyddoedd.

Ym mis Awst eleni fe ddigwyddodd hyn eto a chyda’r un amgylchiadau yn gefndir i’r cyfan.

Yn y freuddwyd mae gen i ddau gar- (fu gen i erioed y fath beth) - ac rydwi wedi penderfynu defnyddio’r VW y diwrnod hwnnw ar ȏl rhoi cyfnod hir iawn o seibiant iddo.

Yna, ar ȏl gyrru am filltiroedd, rydwi’n sylweddoli’n sydyn nad oes gen i’r un o’r canlynol ar ei gyfer – MOT, disg treth nac yswiriant ac o bosib’ mae un teiar yn foel.

Ar ȏl y canfyddiad erchyll hwn rydwi’n deffro.

Gallaf eich sicrhau na ddigwyddodd yr un o’r uchod erioed, felly does gen i ddim esboniad am y fath freuddwyd.

 Y peth pwysicaf a ddigwydd mewn ysgol ydy cadw cofrestr o ddisgyblion sydd yn bresennol ar ddiwrnod arbennig.

Mae hyn yn bwysicach na chynnwys unrhyw wers oedd yr adnod a ddysgais gan un prifathro.

Y drafferth ydy’ methiant rhai disgyblion i gyrraedd yr ystafell gofrestru cyn diwedd y cyfnod cofrestru, yn arbennig felly ar derfyn yr awr ginio.

Os ydy’r plentyn yn absennol y dyddiau canlynol, mae’n hawdd mynd i’r gors, yn enwedig pan fod rhaid penderfynu a ydy’r absenoldeb yn awdurdodedig neu’n ddi-awdurdod.

Gair da ydy awdurdodedig – pedair d ynddo!

Wel, yn y freuddwyd rydwi’n sylweddoli nad ydw i  wedi llenwi’r cofrestr yn rheolaidd, ac erbyn hyn mae hi’n brynhawn olaf y tymor a rhaid i’r gofrestr fod yn nwylo’r prifathro o fewn yr awr.

Yna, rydwi’n deffro mewn chwys oer.

Unwaith eto, ddigwyddodd hyn erioed yn fy hanes,  ond cael a chael fu hi ar adegau.

Hunllef arall a gaf ydy’ rhywun yn gofyn imi ddarllen yn gyhoeddus, ac yn fy myw fedra’ i ddim gwneud pen na chynffon o’r darn darllen.

Oes yna esboniad am  y breuddwydion hyn? Ysgwn i.

Yn ystod mân sgwrsio yn ddiweddar, sylweddolodd nifer ohonom fod gennym yr un papur deg neu ugain punt yn ein waled ag  a oedd gennym chwe mis yn ȏl.

Pryd wnaethoch chi ddefnyddio arian parod ddiwethaf?

Bu’n well gan siopau dderbyn y cerdyn di-gyswllt yn ystod y cofnod Cofid-19 oherwydd ei fod yn ddiogelach i’w staff.

A olyga hyn bod dyddiau arian parod yn brysur ddod i ben lai na hanner canrif ar ȏl i’r pisyn chwech a’r hanner coron ddiflannu heb sȏn am y papur chweugain?

On’d doedden nhw’n ddyddiau da?

Stan Lyall