
Ar y bont
Bu Yes Cymru, Dinbych yn cymryd rhan yn y Niwrnod Cenedlaethol Baneri ar Bontydd ar y 29ain o Awst. Arddangoswyd ein baneri newydd ar bont dros yr A55 ger Llanelwy. Dyma oedd y gweithgaredd ar y cyd cyntaf ers y Cyfnod Clo. Roedd yr aelodau yn cadw pellter cymdeithasol wrth gwrs ac yn cymryd pob gofal arall. Ymunodd aelodau o grwpiau Rhuddlan a Threffynnon efo ni hefyd

Ein baneri newydd ar y gylchfan

Y criw i gyd ar y gylchfan
Hefyd buom yn arddangos y baneri ar y gylchfan yn Ninbych, Fore Mercher Medi’r 2il. Y tro yma daeth cynrychiolydd o grŵp Rhuthun atom. Roedd y gefnogaeth yn amlwg gan fod gymaint o yrwyr yn canu corn wrth basio.
