Y Bigwn

clwb rygbi dinbych

Clwb Rygbi Dinbych

clwb rygbi dinbych
 
 

Mawrth i Fedi, dim rygbi ond digon yn mynd ymlaen yng Nghlwb Rygbi Dinbych.

Heb os nag oni bai, gwelwyd y digwyddiad pwysicaf yn gynnar yn ystod yr argyfwng Covid-19, gyda CIG yn defnyddio’r Clwb fel canolfan asesu i’r firws. Roedd y Clwb yn hynod o awyddus i helpu ym mha bynnag ffordd oedd yn bosib. Er nad oedd gorddefnydd o’r adeilad, bu CIG yn y Clwb tan ganol Awst a gyda CIG yn symud allan, daeth cyfle unwaith eto i ddefnyddio cyfleusterau’r Clwb mewn ffyrdd mwy cyfarwydd. Agorwyd y bar yn ystod y penwythnosau ac ers canol Awst, mae’r gampfa ar gael i’w ddefnyddio gan yr aelodau.

Yn anffodus, ym mis Ebrill a Mai, bu rhaid canslo nifer o weithgareddau oedd wedi eu cynllunio, yn cynnwys teithiau diwedd tymor. Bydd y timau hŷn yn edrych i ail drefnu'r daith i Jersey pan fydd y sefyllfa wedi gwella. Gohiriwyd Cyfarfod Blynyddol y Clwb ac un Cyfarfod Arbennig Undeb Rygbi Cymru

Rhaid canmol yr Undeb am y ffordd maent wedi gweithredu dros y chwe mis olaf. Maent wedi cadw mewn cysylltiad yn gyson, yn cynnig arweiniad pendant a hefyd manylion clir am ffordd o symud ymlaen a pharatoi i ddychwelyd i rygbi - pryd bynnag y digwyddir!! Yn ogystal, maent wedi cefnogi, yn ariannol, bob un o’r clybiau rygbi yng Nghymru.

I weithredu trwy’r cyfnod nad oedd neb wedi ei ragweld, sefydlwyd ‘Grŵp Argyfwng’ i redeg y Clwb, yn ogystal â nifer o ‘Grwpiau Gwaith’ a oedd yn edrych ar ffyrdd o weithredu pan fydd pethau yn dychwelyd i fywyd ‘normal’. Mae’r grwpiau ‘Noddi’, ‘Aelodaeth’, ‘Y Caeau’, ‘Trefniadau Diwrnod Gêm’ ac yn arbennig ‘Chwarae a Hyfforddi’ a’r Minis/Iau wedi bod yn hynod o brysur.

Newyddion da yw bod bob un tîm wedi ail ddechrau ymarfer, er nad ydym yn ymwybodol pryd bydd gemau yn cael caniatâd i’w chwarae. Ar y foment, mae’r Undeb yn gobeithio bydd Rhagfyr neu Ionawr yn gweld rhyw fath o gemau rygbi yn digwydd. Un o’r datblygiadau sydd yn cael i’w ystyried gan y Clwb ydi defnyddio Wifi i’r Tŵr Camera er mwyn ffrydio’r gemau yn fyw. Bydd hwn yn arbennig o werthfawr os na fydd cefnogwyr yn cael caniatâd i wylio’r gemau - ac hefyd i gefnogwyr y Clwb sydd yn byw ymhell o Gaeau Les Phillips.

 

Tegid Phillips