Y Bigwn

Parseli Bwyd

Parseli bwyd yn barod

Ers cychwyn yr argyfwng Cofid-19 mae banc bwyd Dinbych wedi danfon allan dros 250 o barseli  bwyd i bobl mewn argyfwng.

Mae’n 25 wythnos ers i ni orfod newid ein dull o weithio oherwydd Covid-19 ac rwy’n falch o gael dweud ein bod wedi llwyddo i barhau i weithio’n effeithiol  ar hyd yr wythnosau diwethaf ac wedi medru ymateb i bob un galwad am gymorth.

Ar ei anterth roeddem yn derbyn 28 taleb ac yn danfon allan 28 parsel bwyd mewn wythnos. Mae’n galondid ein bod nawr ond yn delio gyda o gwmpas 10 cais am fwyd pob wythnos.

Rhaid canmol y rhai sydd wedi bod yn cyfrannu bwyd am eu amynedd yn ystod y cyfnod yma. Ar un adeg roedd rhaid i ni beidio a derbyn rhoddion bwyd o gwbl er mwyn diogelwch pawb ond erbyn hyn rydym unwaith eto yn derbyn rhoddion trwy drefniant o flaen llaw.

Ar hyd yr amser mae ein gwirfoddolwyr ffyddlon wedi parhau i baratoi parseli, ail lenwi’r silffoedd,  pwyso a didoli’r bwyd sydd wedi bod yn dod mewn. Yn y cyfnod yma rydym wedi gorfod danfon y bwyd allan i glientau er mwyn diogelwch pawb ac o herwydd bod llawer ohonynt yn gorfod hunan-ynysu. Mae nifer o wirfoddolwyr wedi bod yn gwneud hyn yn ddyddiol a hynny ers 6 mis. Diolch i bob un o’r gyrrwyr.

Hefyd rhaid peidio anghofio am ymroddiad y rhai sydd wedi bod yn ateb y ffôn, yn derbyn yr ebyst ac yn datrus y problemmau ar hyd yr holl amser.

Os rydych am wybod rhagor am y 250 o barseli a ddanfonwyd allan yna mae gennym y ffigyrau canlynol sy’n dangos gwerth yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Rydym wedi bwydo 679 o bobl mewn 6 mis. 420 oedolyn, 124 person ifanc a 135 o blant. Mae’r teuluoedd yma yn byw yn Ninbych yn bennaf ond rydym wedi bod yn gwasanaethu ardal sy’n ymestyn o Lanelwy i Gyffylliog ac o Landyrnog i Lansannan.

Diolch eto i’r gwirfoddolwyr, ein cefnogwyr ac i swyddogion Y Capel Mawr am adael i ni gymeryd drosodd y festri yn ogystal a’r ystafelloedd arferol.