Cymorth Cristnogol Dinbych
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd Pwyllgor Cymorth Cristnogol Dinbych yn diolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol 2019 yn casglu arian o ddrws i ddrws yn Ninbych ac yn Lidl ar y Dydd Gwener. Roeddem hefyd yn diolch yn arbennig i chi am eich cefnogaeth yn y Cinio Cynnil, y Bora Coffi, Y Gwasanaeth Undebol ac yn y noson Sankey. Ond, roedd hi’n wythnos wahanol iawn yn 2020! Er bod yr wythnos wedi ei gohirio, tydi hi ddim yn bosib gohirio'r problemau a roddodd fod i’r wythnos. Gydag amgylchiadau’n gwlad yn fregus, ac yn parhau i fod yn fregus ar draws y byd, rydym wedi ymateb i’r argyfwng drwy helpu ein cymdogion yn ein cymunedau. Rydym hefyd wedi cael ein hatgoffa ein bod yn rhan o’r gymuned fyd-eang ac rydym yn mynd drwy’r pandemig gyda’n gilydd. Fe’n hanogir i olchi ein dwylo yn gyson i atal lledaeniad y Coronafeirws. Mor hawdd i ni, gyda mwy nag un tap o fewn y tŷ, cyflenwad o sebon a thywel yn gyfleus. Ond, mae 40% o boblogaeth y byd yn byw heb ddŵr glân a sebon yn eu tai. Mewn rhai o’r gwledydd sy wedi eu heffeithio gwaethaf, fel Yemen, Syria a Somalia, mae nifer o bobl yn byw mewn gwersylloedd torfol ar gyfer ffoaduriaid a phobl wedi eu dadleoli, gydag ond ychydig o ofal iechyd, dŵr glân neu ddigon o fwyd ar gael, sy’n eu gwneud yn hynod o fregus i’r coronafeirws. Lansiwyd apêl gan Gymorth Cristnogol er mwyn ymateb i her y pandemic yng nghymunedau tlotaf y byd. Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol anfonwyd £2,532 drwy Bwyllgor Cymorth Cristnogol Dinbych tuag at y gwaith yma. Fel cyfraniad i Apêl Cymorth Cristnogol a DEC, anfonwyd £1030 ychwanegol. Diolch am eich cefnogaeth a bydd partneriaid Cymorth Cristnogol yn parhau i ddosbarthu sebon a diheintydd, yn sicrhau cyflenwadau dŵr glân, yn ogystal â dysgu pobl i olchi eu dwylo’n drylwyr, yn cynnig hyfforddiant ac offer diogelwch i weithwyr iechyd ac yn adeiladu cyfleusterau newydd i ddarparu llefydd i gadw cleifion Covid-19 arwahan. Nid dros wythnos yn unig mae angen y gefnogaeth gan Cymorth Cristnogol, mae’r apêl yn parhau. Os hoffech gyfrannu, gallwch dalu i’r cyfrif banc ar lein - HSBC UK, Dinbych. Cod 40-19-12 Rhif y Cyfrif - 01012118 Enw’r cyfrif - Cymorth Cristnogol - Cangen Dinbych Dyma wybodaeth yn dangos sut mae partneriaid lleol Cymorth Cristnogol yn helpu efo argyfwng y Coronafirws. Ond pa wahaniaeth all fy arian i wneud?” https://www.christianaid.org.uk/…/honouring-real-life-heroe… Diolch am wneud gwahaniaeth! Cheryl Williams ar ran y Pwyllgor.
