Y Bigwn

Penderfyniad anodd oedd dewis parhau gyda’r rhifynnau digidol.  Gyda nifer o bapurau bro yn dychwelyd i argraffu rhifynnau ar bapur roedd rhai yn teimlo y dylem ddilyn hynny.  Barn y mwyafrif o’r tîm oedd y dylem barhau gyda’r rhifynnau digidol.  O ystyried fod Sir Ddinbych wedi cychwyn ar gyfnod clo lleol ddiwrnod cyn cyhoeddi’r rhifyn hwn gwnaed y penderfyniad iawn.  Hawdd yw ôl-ddoethineb ynte.

Rydym yn ymwybodol fod nifer o’n tanysgrifwyr heb fynediad i’r rhifynnau digidol.  I gynorthwyo gyda hyn da ni am ychwanegu clawr i’r copi pdf yn seiliedig ar y dudalen hon a gwneud ymdrech pellach i sicrhau fod ein tanysgrifwyr yn cael cyfle i dderbyn hwnnw gan gyfeillion ac ati.  Os ydych yn adnabod rhywun sydd angen copi a nad ydych yn gallu argraffu copi iddynt gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.

Cyfnod o brotestio!

Cymerodd mwy na un mudiad y cyfle ar ôl i’r cyfyngiadau cofid gael eu llacio i gynnal digwyddiadau yn y dre a’r ardal.  Ymysg rhain oedd y seremoni ail-orchuddo cofeb H. M. Stanley a Baneri ar Bontydd (a chylchfannau!) Yes Cymru.  Mae’n debyg na welwn ni fwy am gyfnod eto nes bydd pethau’n gwella o ran yr afiechyd dieflig yma.  Mwy o hanes tu mewn!

Pontydd 2IMG 7404 Copy