Gan bod Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan (‘VJ Day’) newydd fod ar 15 Awst, meddyliais y buaswn yn ysgrifennu yr ychydig eiriau yma i’r Bigwn. Mae hanes Yncl Llew wedi ymddangos yn Y Bigwn o’r blaen felly dim ond am ddiwedd ei gyfnod fel carcharor fydd yr erthygl yma rhan fwyaf.
Cafodd Evan Llewelyn Evans o Hirnant ger Penybontfawr ei alw i’r fyddin yn fachgen 31 oed ar 19 Gorffennaf 1941. Cafodd lyfr emynau a Beibl gan ei fam i fynd gyda fo. Brawd i fy nhad oedd Llewelyn Evans ac yn un o wyth o blant.
Mae yn chwith meddwl amdano yn cychwyn o stesion Penybontfawr. Ar ôl ychydig o ymarferion cychwynnodd fordaith ym mis Tachwedd 1941 ar long o’r enw Athlone Castle – nid oedd yn gwybod i ble, dim ond si mai i’r Dwyrain Pell.
Ar ôl newid llong yn Bombay aethant ymlaen a glanio, ar ôl wyth wythnos ar y môr, ym mhorthladd Batavia ar ynys Java. O fewn ychydig wythnosau ym mis Chwefror 1942 cafodd ei gymryd ynghyd â llawer o filwyr eraill yn garcharor rhyfel gan y Japaniaid.
Bu yng ngharchar Changi am bum wythnos cyn cael ei symud i ynys Borneo i le o’r enw Ku-Ching – hwn oedd ei gartref am y tair blynedd a hanner nesaf.
Dioddefodd yn enbyd yn ystod ei gyfnod yn Ku-Ching. Roedd y carcharorion yn cael eu cam-drin yn erchyll a chladdwyd dros 800 o’i gyd-garcharorion yno (mwy na hanner y rhai a gyrrhaeddodd ym 1942). Roedd rhaid iddo helpu i dorri beddau ar gyfer rhai o’i gyd-garcharorion a phan, ar un achlysur fe lewygodd yr offeiriad wrth gynnal gwasanaeth claddu dau o ffrindiau Yncl Llew, gofynnwyd iddo fo gynnal y gwasanaeth gan bod yr Is Gomandant wedi ei weld yn darllen y Beibl.
Ysgrifennodd Yncl Llew lyfryn o ychydig o’i hanes fel carcharor ond ni soniodd yr un gair wrth ei wraig (Anti Dilys) na’i deulu am ei hanes ond ar eu cyfer nhw yn bennaf yr oedd wedi mynd ati i sgwennu. Perswadiodd Arfon Gwilym iddo adael i’r llyfryn gael ei gyhoeddi o dan yr enw “Taith Yr Anialwch”. Roedd yn cyfaddef bod llawer o ddigwyddiadau yn rhy erchyll iddo sôn amdanynt.
Yn y bennod gyda’r teitl ‘Codi Gobeithion’ mae’n sôn sut yng ngwanwyn 1945 bod yr arwyddion yn dechrau ‘codi draw a dweud wrthym fod y wawr yn dechrau torri…’ Tua chanol yr haf clywsant fod y rhyfel wedi dod i ben yn Ewrop. Mae yn sôn, er nad yw yn sicr o’r dyddiad (tua diwedd Awst neu ddechrau Medi) rhyw fin nos daeth y newydd “Well boys, I strongly believe that we shall be free men tomorrow” – felly y bu. O ‘hut 17’, cartref Yncl Llew am dair blynedd a hanner, dim ond 21 allan o’r 48 gwreiddiol oedd yn fyw. Yn drist iawn bu farw un o’i ffrindiau gorau ar y diwrnod roeddent yn cael eu rhyddhau. Ychydig o dan chwe stôn oedd pwysau Yncl Llew. Doedd ganddo ddim llawer o waith pacio. Dim ond y ddau lyfr bach pwysig a oedd wedi cael gan ei fam, llwy, a thun ‘Dixie’ a oedd yn dal ei brydau bwyd o reis a stiw. A’r llythyrau a oedd wedi eu derbyn o adre. Yn un o’r rhain cafodd wybod bod ei fam wedi marw.
Cawsant eu llwytho i’r ‘duckws’ – cychod mawr ac olwynion oddi tanynt, wedyn uno ag afon fawr cyn cyrraedd y môr. Symud i long y Groes Goch, “wedyn gwneud i ffwrdd â’r ‘ffedog yfflon fras’ a chael pyjamas newydd rhesi glas, gwely glân cyfforddus i orffwys arno a digonedd o adnoddau angenrheidiol – dillad ac esgidiau newydd unwaith yn rhagor”. Bu mewn ysbyty am bythefnos yn cael triniaeth i’r ‘tropical ulcer’ a oedd yn ei boeni ac yn wir fe enillodd bron i ugain pwys yno.
Bu ar yr SS Ranchi ar ei ffordd adref (trwy’r Suez Canal) i Southampton am chwech wythnos. Roedd tyrfa o bobol yno i’w croesawu a’r bandiau yn tiwnio. Lawr y gangway am y tro olaf ac ymlaen i ysbyty yn Taunton.
Trafeilio dros nos ar drên i Paddington, ymlaen i Birmingham ac i’r Amwythig a chyrraedd Croesoswallt tua hanner awr wedi wyth y bore. Roedd yno ambell i dacsi ac aeth un ohonynt â fo i Benybontfawr.
Pan ddaeth at Benybontfawr meddyliodd bod “Jiwbili neu Coronation wedi bod wrth weld fflagiau ar hyd y stryd. Ond erbyn deall, croeso’n ôl i mi oeddynt. Safodd y tacsi wrth hen siop y Stores, a chofiaf yn dda iawn y croeso a’r caredigrwydd a gefais gan bawb”.
Y prynhawn wedyn aeth Yncl Llew a’i chwaer Miriam, i Hirnant at fedd eu mam – yn ei boced roedd y ddau lyfr a gafodd ganddi pan oedd yn cychwyn ar ei daith ac fe roddodd nhw ar y bedd ‘am ennyd bach’. Teimlai mai dyma yr agosaf a fedrai fynd at ei llaw a’i chalon garedig hi.
Roedd wedi adrodd pennill iddo’i hun trwy’r amser a fu ffwrdd ac y mae yn gorffen ei lyfryn gyda hi:-
Am fy mod heddiw’n fyw
Mir rof deyrnged
O glod a mawl i’m Harglwydd Dduw
Am fy arbed.
Bu farw Yncl Llew yn 88 mlwydd oed ar 12 Mai 1998 – yn dal heb sôn wrth neb am ei brofiadau erchyll o dan law y Japaniaid. Cafodd ei gladdu ym mynwent Penygarnedd ger Penybontfawr. Roedd yn fraint i ni gael ei adnabod am gymaint o flynyddoedd. Gŵr addfwyn, tawel a charedig iawn.
Eiri Jones
