
Yr Amdo Rwber, y faneg goch a'r plac wedi eu gosod
Ar Awst 15ed cynhaliwyd y seremoni flynyddol i ail-orchuddio cofeb H.M. Stanley. Seremoni o brotest ydi hon yn erbyn mawrygu un a fu’n allweddol yn agor y Congo i’w reibio gan imperialaeth. Mae’r seremoni ar ffurf prosesiwn angladdol yn cario amdo rwber ddu. Cynllunwyd yr amdo gan yr artist Wanda Zyborska, tiwtor Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Bangor. Gwnaed yr amdo o rwber i gynrychioli adnodd naturiol mwyaf y Congo oedd yn bennaf gyfrifol am y rheibio fu ar y wlad. Mae maneg goch hefyd yn rhan o’r gwaith sy’n cynrychioli y miliynau o frodorion a laddwyd er mwyn budd y dyn gwyn.
Eleni, wrth gwrs, rhaid oedd bod yn ofalus i gadw at reolau cofid-19. Gwnaed yn siŵr fod pawb yn cadw pellter cymdeithasol, caniatawyd nifer cyfyngedig o bobl ar y llain o flaen y Llyfrgell ac roedd diheintyddion ar gael. Cariwyd yr amdo a’i gosod gan aelodau o’r un teulu dan gyfarwyddyd yr artist.

Mair yn gosod y plac
Ar ôl gosod yr amdo a’r faneg gosodwyd Plac, i orchuddio’r plac parhaol, gan Mair Jones. Mae geiriad y plac yn egluro cyd-destun helyntion Stanley a'r rôl y chwaraeodd yn y Congo wnaeth arwain at erchyllterau Leopold a lladd hyd at hanner y boblogaeth!
Y cynghorydd tref Plaid Cymru, Dyfrig Berry, oedd yn cyflwyno’r 3 siaradwr sef Sêl Williams, fu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor, Howard Hughes, awdur y llyfr newydd ar fywyd Stanley gyhoeddwyd yn ddiweddar a Dr Salamatu Fada, cadeirydd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru.
Atgoffwyd ni gan Howard Hughes fod Stanley yn mynd i eithafion i wadu ei fod yn Gymro am y rhan fwyaf o’i oes – Stanley oedd y “Gŵr o Ddinbych na charai ei fro; Cymro a wadodd ei Gymreictod; newyddiadurwr a ymroes i gelwyddau; ac yn bennaf oll, dyn â gwaed lawer ar ei ddwylo, un a fraenarodd ddigwyddiadau erchyllaf y cyfnod trefedigaethol yn Affrica.”

Dr Salamatu Fada o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru gyda'r artist Wanda Zyborska a'r cerddorion
Calonogol oedd gweld nifer dda o bobl Dinbych yn y seremoni yn enwedig pobl ifanc. Braf hefyd oedd croesawu nifer o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru.
.
