Y Bigwn

 

Capel Lôn Swan heb y sgaffaldiau

Capel Lôn Swan heb y sgaffaldiau

Efallai fod rhai ohonoch wedi sylwi fod y capel wedi ei orchuddio â sgaffaldiau am dros flwyddyn wrth i waith cynnal a chadw angenrheidiol gael ei wneud ar y to.  Am resymau amlwg, daeth y gwaith i stop disymwth yn y gwanwyn, ond, o’r diwedd, cwblhawyd y gwaith ar ddechrau mis Awst a diflannodd y sgaffaldiau!  O ganlyniad, y cam nesaf oedd sicrhau fod yr adeilad mewnol yn cael ei lanhau’n drylwyr o’r top i’r gwaelod, a cyflogwyd cwmni lleol i wneud y gwaith, ac erbyn hyn mae’r tu fewn fel pin mewn papur!

 

Testun Arall Delwedd 1

Yr Hysbysfwrdd Newydd

Manteisiwyd ar y cyfle hefyd i osod hysbysfwrdd newydd y tu allan i’r capel, wedi ei gynllunio gan aelodau’r capel ac wedi ei gynhyrchu gan gwmni lleol arall.

Oherwydd yr amseru, penderfynnwyd gwneud asesiad risg manwl cyn ystyried ail-gychwyn cynnal oedfaon, ond wedi gwneud hynny, roedd y Swyddogion yn ddigon hyderus i gynnal yr oedfa gyntaf ers chwe mis ar fore Sul, Medi 13, gyda pawb yn defnyddio diheintydd dwylo a cadw pellter cymdeithasol gan ddilyn y canllawiau ynysu a hylendid er mwyn diogelwch pawb.

Gweinyddwyd y Cymun gan Y Parchedig Graham Floyd gan ddefnyddio gwydrau plastig gellir eu hailgylchu.  Profiad gwahanol!

Er hynny, a’r ffaith fod dim canu cynulleidfaol, llwyddwyd i greu awyrgylch defosiynol trwy gyfrwng cerddoriaeth fyw a recordiadau.  Roedd pawb yn falch i fod yn ôl.

Fel mae’n digwydd, daeth cyhoeddiad y diwrnod canlynol gan Lywodraeth Cymru am wisgo mygydau, sy’n golygu bydd raid i bob aelod o’r gynulleidfa, yn ogystal ag arweinydd yr addoliad, wisgo mwgwd o hyn ymlaen nes clywir yn wahanol.  Rhyfedd o fyd, a pwy â ŵyr beth sydd o’n blaenau yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.