Y Bigwn

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi newid ei gwasanaeth yn llwyr i allu parhau i helpu a chefnogi'r cymunedau lleol yn ystod argyfwng presennol Coronafeirws - Covid 19.  Maent bellach yn darparu gwasanaeth cyngor dros y ffôn neu drwy e-bost, a ddarperir gan 35 o wirfoddolwyr a 28 o staff cyflogedig sy'n gweithio o'u cartrefi.  Maent wedi rhoi cyngor i bron 300 o bobl ar amrywiol faterion yn ymwneud â'r Coronafeirws yn ystod yr wythnosau diwethaf.  Mae ymholiadau'n ymwneud yn bennaf â chyflogaeth e.e. hawl i seibiant o’r gwaith (“furlough”), bod yn hunangyflogedig, diswyddiadau ac ymholiadau budd-daliadau ar Gredyd Cynhwysol, costau tai a budd-daliadau salwch. 

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Lesley Powell, "Mae'r hyn rydym wedi llwyddo i'w wneud yn eithaf rhyfeddol, i drawsnewid gwasanaeth sy’n wyneb i wyneb yn y  Swyddfa yn bennaf, i wasanaeth ffôn/digidol llwyr, mewn pythefnos, heb unrhyw adnoddau ychwanegol.  Roedd ein staff a'n gwirfoddolwyr yn benderfynol na thorrir ar ein gwasanaeth a bod pobl yn gallu cysylltu â ni. Maen nhw i gyd wedi cyd-dynnu i wneud i hyn weithio.  Yr un gwasanaeth ag arfer sydd ar gael, ond wedi ei ddarparu'n wahanol "

CAB9llunc Copi2x1CAB9llunc---Copi2x4.jpg

Poster Cyngor Ar Bopeth