Sefyllfa Banc Bwyd Dinbych
"gellir dweud yn ddi-flewyn ar dafod nad oes cyfnod tebyg i hyn wedi bod yn ein hanes"
Er bod Banc Bwyd Dinbych wedi bodoli ers tua 6 mlynedd rwy’n siŵr y gellir dweud yn ddi-flewyn ar dafod nad oes cyfnod tebyg i hyn wedi bod yn ein hanes. Hyd yma, roedd Banc Bwyd Dinbych yn bodoli ar gyfer y nifer fychan hynny a oedd yn byw yn ein plith ond a oedd wedi mynd i drafferthion ariannol dros dro.
Ym mis Medi'r llynedd fe gyhoeddwyd adroddiad a oedd yn honni fod yna filiynau o bobl un amlen gyflog i ffwrdd o fod o fewn tlodi a dim arian o gwbl yn eu meddiant ar gyfer talu biliau a phrynu bwyd. Nawr bod yr economi mwy neu lai wedi cau lawr mae llawer o’r bobl yma wedi colli eu bywoliaeth, wedi cael eu rhoi ar gyflogau llai neu yn aros i glywed gan y Llywodraeth o’r math o gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Erbyn hyn, mae ein cleientiaid ni yn weithwyr caib a rhaw, yn bobl broffesiynol neu yn bobl busnes.
Hyd yn oed yma yn nhref Dinbych ac yr ardaloedd cyfagos mae yna unigolion a theuluoedd a oedd yn meddwl eu hunain yn ddiogel yn ariannol ond sydd nawr mewn trafferthion dybryd. Oherwydd hyn, mae cryn dipyn o bwysau wedi disgyn ar fudiadau tebyg i banc bwyd Dinbych i ddarparu’r gymorth.
Rydym dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn danfon tua 20 parsel bwyd pob wythnos sef dwywaith yn fwy nag arfer. Fel un o’r rhai sydd wedi bod yn dosbarthu’r bwyd rwyf wedi dod i ddeall nad yw’r cleientiaid yma erioed wedi gorfod defnyddio banc bwyd o’r blaen. Rwyf hefyd wedi gweld mae Cymry Cymraeg yw’r canran uchel o’r cleientiaid newydd yma. Mae’n amlwg eu bod yn bobl sydd pob amser wedi gweithio’n galed i ddarparu dros eu teuluoedd.
Mae swyddogion Y Capel Mawr wedi bod yn garedig iawn drwy ganiatáu i ni ddefnyddio’r festri ar gyfer ein gwaith ychwanegol. Mae’r pecynnau bwyd yn cael eu paratoi o flaen llaw yn y lle arferol gan ein gwirfoddolwyr. Yna mae’r parseli bwyd yn cael eu cludo i’r festri er mwyn bod yn barod ar gyfer cleientiaid. Er mwyn cadw ein gwirfoddolwyr, cleientiaid a’r rhai sy’n cyfrannu bwyd yn ddiogel nid yw drysau’r adeilad yn cael ei agor ond drwy drefniant o flaen llaw. Mae hyn yn golygu ein bod, am y tro cyntaf, yn gorfod mynd a’r parseli bwyd at gartrefi ein cleientiaid. Yno rydym yn curo’r drws ac yn gadael y parsel bwyd ar y rhiniog ac chyfarch y cleientiaid o bell.

Gobeithio fod y pwt yma wedi rhoi syniad gwell i chi o sut mae’r banc bwyd a’r gwirfoddolwyr ffyddlon wedi gorfod addasu ein ffordd o weithredu oherwydd y firws.
Mae rhaid diolch hefyd i’r rhai sy’n cyfrannu bwyd. Heb gyfranwyr cyson ni fase’r banc bwyd yn bodoli o gwbl. Diolch felly i ddarllenwyr Y Bigwn ac i eraill yn ein bro sy’n cyfrannu bwyd ac rhoddion ariannol atom er mwyn cynnal y gwaith. Heb eich cyfraniadau chi ni fuasai gennym fwyd i’w ddosbarthu yn y lle cyntaf.
Os gwyddoch chi am rai sydd mewn angen bwyd oherwydd problemau ariannol difrifol yna dywedwch wrthynt am gysylltu â ni unai ar y rhif ffôn yma 07498292567 neu trwy ddanfon e-bost at
Diolch eto am eich cefnogaeth.
Rhys Thomas
