Cheryl Williams wthiodd y cwch i’r dŵr pan gysylltodd â mi ar ȏl gweld Fergal Keane, un o ohebwyr tramor y BBC, yn darllen y gerdd Benedictus gan John O’Donohue.
Roedd hi’n gwybod fy mod yn edmygydd o waith y gŵr hwn, ac yn gwybod am ei ymdrech lew i ymgodymu â PTSD yn dilyn cyfnodau erchyll ar faes y gad ar hyd a lled y byd.
I dorri’r stori’n fyr, ar ȏl gwrando arno dyma ofyn i Catrin, y ferch acw, ysgrifennu addasiad yn y Gymraeg ar gyfer yr argyfwng yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd.
Dyma’r hyn a ysgrifennodd hi;-
Dyma’r amser i arafu,
Swatio’n isel ger y mur
Nes i’r tywydd chwerw ostegu.
Ceisia, gorau medri di, beidio â gadael
i frwsh sgwrio amheuaeth
grafangu o’th galon
pob synnwyr o’th hunan
a’th oleuni petrus.
Os arhosi di yn hael,
Fe wna amser ei ran;
Ac fe ddoi di o hyd i dy draed eto
ar erwau glân addewid,
Lle bydd yr awel yn garedig,
Ac wedi’i wrido â dechreuad newydd
Y mae yna nifer o bethau wedi bod yn fy mhryderu i yn ystod y cyfnod hwn o fod dan glo, ac ar ben y rhestr y mae’r cwestiwn, “ Sut y mae’r rhai sy’n gorfod hunan ynysu yn cael digon o arian parod i roi i eraill i siopa ar eu rhan?”
Wedi’r cyfan dydy pawb ddim yn bancio na siopa ar-lein.
Os ydych chi’n gofyn i ddieithriaid siopa ar eich rhan, dydych chi ddim am roi’ch cerdyn banc iddyn nhw nac am roi manylion pwysig am y cerdyn hwnnw yn eu meddiant.
Dydy cerdyn di-gyswllt ond yn caniatau i rywun wario £45 ar y tro, ac a fyddech chi’n rhoi’ch llyfr siec ym meddiant person arall?
Sut ydach chi’n sicrhau digon o arian parod pan na ddylech adael eich cartref i fynd at dwll yn y wal neu fanc ar y stryd fawr?
Diddorol fyddai clywed am eich profiadau chi.
Caniateir i bob un ohonom ymestyn ein coesau unwaith y dydd, ac y mae hynny yn bendant yn sicrhau nad ydy’ rhai ohonom yn mynd yn orffwyll.
Wrth gerdded ar hyd y palmant, yr hyn sydd yn drawiadol ydy’r nifer o bobl sydd yn disgwyl i chi gamu o’u ffordd. Mae ganddyn nhw hawl dwyfol i gerdded mewn llinell syth, a does yna ddim yn mynd i darfu arnyn nhw.
Pan ydych chi’n symud dwy fetr o’r naill du, iddyn nhw dydyn nhw dim yn cydnabod hynny. Dyna’r hyfdra a berthyn iddyn nhw.
A wel, daw haul ar fryn eto a chawn gyfle i’w cyfarch nhw gyda gwên yr adeg honno. Eu hymateb, mae’n debyg, fydd rhoi’u pennau i lawr a’ch anwybyddu chi.
Stan Lyall
