Y Bigwn

Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau hyn, mae Cristnogion ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r seithfed Sul ers dechrau cyfnod y ‘lockdown’. Un o ganlyniadau hyn yw bod eglwysi wedi gorfod cau drysau eu hadeiladau am gyfnod. Does dim cynsail i hyn ym mhrofiad yr un ohonom, ac fel pawb arall, mae eglwysi wedi gorfod ceisio newid yn sydyn i barhau.

Un o’r pethau sydd wedi codi fy nghalon i yn ystod y cyfnod hwn yw gweld sut mae’r eglwys wedi newid er mwyn parhau i addoli, gwasanaethu, a rhannu’r newyddion da am Iesu Grist.

Ond cyn mynd ymlaen ddim pellach, dylwn ddweud rhywbeth am deitl cryptig braidd yr erthygl hon. Clywais un sylwebydd yn y dyddiau diwethaf yn dweud fod hwn yn gyfnod o newid wedi ei gyflymu (os mai dyna’r cyfieithiad mwyaf priodol i ‘accelerated change’!). Yn ei ôl ef, mae’r argyfwng sydd wedi cael ei achosi gan y firws Covid-19 wedi arwain at gyflymu newidiadau fyddai wedi digwydd ta beth yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae sawl un wedi dweud wrtha i yn yr wythnosau diwethaf fod y cyfnod hwn yn mynd i newid pethau yn sylfaenol i gapeli. Pan ydw i’n gofyn, ‘beth yn union ydych chi’n golygu wrth hynny?’, mae pobl yn gyndyn iawn i roi ymateb manwl! Ond mae un peth yn sicr. Mae’r cyfnod hwn o argyfwng yn ein gorfodi ni i feddwl beth sy’n angenrheidiol i fywyd eglwys. Mae’n gorfodi i ni edrych yn ôl ar ein sylfeini er mwyn ein helpu i edrych ymlaen.

Efallai mai’r peth pwysicaf sy’n dod allan o’r cyfnod hwn yw ein bod ni wedi cael ein hatgoffa mai adeilad yn unig yw capel. Faint o aelodau sydd gan Capel Mawr, Capel y Fron, a Chapel y Brwcws? Yr ateb: dim o gwbl! Adeiladau a godwyd rhwng 100-200 mlynedd yn ôl i gynnal addoliad cyhoeddus ydyn nhw.

Pobl yw’r eglwys - pobl sy’n addoli Iesu Grist, sy’n rhannu’r newyddion da amdano, ac yn gwasanaethu a charu ei gilydd ac eraill. Pan fu newidiadau a sialensiau mawr yn y gorffennol, mae’r eglwys wedi bod yn hyblyg ac yn greadigol. Mewn cyfnodau o erlid, er enghraifft, mae sawl stori am Gristnogion yn addoli ganol nos mewn llefydd dirgel. Ond nid dyna’r sefyllfa heddiw, wrth gwrs. Diolch i dechnoleg a chysylltiadau we cyflym, mae modd addoli a chadw mewn cysylltiad mewn ffyrdd fyddai’n llawer anoddach ddegawd yn ôl. Mae nifer o eglwysi yn defnyddio meddalwedd ‘Zoom’ er mwyn cynnal cyfarfodydd gweddi a chyfarfodydd i astudio’r Beibl, ac mae nifer fawr o eglwysi yn rhoi gwasanaethau ar Youtube. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn newydd a gwahanol i bob un ohonom, ond mae’n rhaid diolch am yr adnoddau sy’n galluogi pobl i gysylltu â’i gilydd.

Ochr yn ochr â hyn, mae wedi bod yn braf clywed am ofal Cristnogion dros ei gilydd yn y gymuned a dros eraill. Mae’n eithriadol anodd peidio gweld pobl wyneb yn wyneb, ond mae llawer gallwn ni wneud wrth barhau i fod yn deulu sy’n gofalu dros ei gilydd, ac sydd â chonsyrn dros bawb.

I gloi, felly – mae’n gyfnod heriol iawn i eglwysi ledled y byd. Ond mae’r eglwys yn dal yma – ond yn addoli ac yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Ac mi fyddwn ni’n parhau i weddïo dros yr ardal a’i phobl yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan annog pobl i helpu a gwasanaethu gan gadw at y rheolau sydd mewn lle.

Os hoffech chi fwy o fanylion am yr hyn sy’n digwydd yn y fro, ewch draw i dudalen Facebook ‘Bro Dinbych’. Rydyn ni hefyd yn cynhyrchu gwasanaeth wythnosol i’r rheiny heb gyswllt we – os hoffech chi dderbyn copi o hwn trwy’r post neu drwy e-bost, cysylltwch â fi.

Andras Iago