
Clwb Rygbi Dinbych

Efallai i chi gofio darllen yn ein rhifyn diwethaf fod y Clwb wedi rhoi eu caniatâd i’r Clwb gael ei ddefnyddio fel Canolfan Asesu Twymyn (“Fever Assessment Centre”). Erbyn hyn mae’r gwaith asesu wedi cychwyn ar y safle, ac mae’r teitl wedi newid i Canolfan Asesu Lleol (“Local Assessment Centre”). Efallai fod hwn yn enw llai brawychus – wn i ddim!
Yn absenoldeb unrhyw rygbi’n cael ei chwarae, rydym yn hynod ddiolchgar i Tegid Phillips, Llywydd y Clwb, am gytuno i rannu rhai o’i sylwadau a aeth allan mewn cylchlythyr i’r aelodau’n ddiweddar.
- Bydd pawb yn ymwybodol, dwi'n siŵr, bod y gweithgareddau 'arferol' yn y Clwb wedi eu gohirio am y tro.
- Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod y tymor 2019-20 wedi ei chanslo gyda phob canlyniad yn ddi-rym. Bydd dim dyrchafiad nag ostyngiad yn y Cynghreiriau Cenedlaethol.
- Hoffai'r Clwb i ddiolch yn ddiffuant i bob un o'n chwaraewyr, hyfforddwyr, rheolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr am eu cyfraniad yn ystod y tymor. Edrychwn ymlaen at ail ddechrau chwarae!!
- Nododd yr Undeb eu consyrn am iechyd ariannol rhai o glybiau Cymru yn ystod ac yn dilyn yr amseroedd digynsail hyn. Byddwch yn siŵr, bod y Clwb, oherwydd ein rheolaidd cyllidol gochelgar, o dan arweiniad ein Trysorydd, Walter Roberts, mewn sefyllfa ariannol iach. Bydd amseroedd anodd i wynebu ond rydym yn hyderus y byddem yn gallu goroesi'r storm hon.

Canolfan Asesu Twymyn

Canolfan Asesu Lleol
