Dydd Mawrth
Heddiw rydw i wedi codi o'r gwely i glywed adar yn canu. Doedd ddim gormod yn mynd ymlaen, tan iddyn ni glywed bod Donald Trump yn mynd i anfon milwyr i delio efo'r protestwyr druan tu allan i'r Ty Gwyn. Ar ôl i Donald Trump stopio brolio, daeth un or cathod i'n nhŷ. Ond roedd hyn yn gamgymeriad anferth. Y peth gynta gwnaeth o oedd rasio i fyny y grisiau, felly roedd angen i rhywun fynd ar ei ôl. FI. Rhedodd o fel y gwynt (tan i mi dal o). Dechreodd Mam i goginio cacen (Victoria sponge) a cefais i lyfu y llwy. Tŷ allan roedd y gath arall (Samira) wedi dal cwningen, dyna pryd neidiodd y gath trwy'r ffenest'r efo'r cwningen yn ei cheg a rhoddodd y cwningen marw yn ei wely! Aeth Mam yn wyllt. Gwyliais yr teledu am tua hanner awr ac rwan mae ysgol wedi dechrau ac ysgrifennais gwaith am y dyfeisiwr Thomas Edison. Pryd daeth amser egwyl, bwytais brechdan caws a cerddais allan a gweld Samira yn cysgu efo bol llawn ond diflanwyd y cwningen! Ar ôl hyny cerddais i'r llyn, roedd hi'n hynod o diddorol i edrych ar y bywyd gwyllt. Gwelais creur glas anferthol ac un pysgodyn. Pan ddychwelais at y tŷ roedd Mam yn bwyta'r cacen efo Olwen a Geinor. Cyn mynd i swper cerddais allan am ychydig o amser dim ond i weld sgrech y coed efo darn mawr o bara wedi ei ddwyn o'r bwrdd adar! Erbyn rwan mae hi'n dechrau tywyllu.
Ond mae amser wedi dod i ben ac mae'r haul yn machlyd a bydd yfory yn ddiwrnod newydd.
Dydd Mercher
Bore yma codais i glywed y cathod druan yn ymbilio i dod i mewn allan o'r glaw. Pan ddaeth y cathod i mewn roedden nhw yn diferu glaw o'u cotiau, roedden nhw'n edrych fel llygod mawr wedi boddi! Doeddwn i ddim yn meddwl i fynd allan i'r glaw (am resymau amlwg).
Cyn mynd i'r ysgol gwelais aderyn bychan yn sefyll ar y polion ffa. At tua 10:45 dechreuodd y tywydd diflasu'n fwy a fwy. Dechreuais siarad efo fy ffrind tan i mi darganfod fod ganddo ffon! Roeddwn mor flin oherwydd mae gan pawb yn Bl.6 ffon heblaw am fi! Ar ôl siarad efo fy ffrind dechreuais i wneud fy ngwaith saesneg i'r ysgol. Ar ôl i mi orffen fy ngwaith ysgol meddyliais am tynnu llun felly dyna be wnes i, ac roedd y llun yn hynod o manwl! Digwyddodd dim llawer ar ôl amser swper dim ond i glywed fod un o'n nheulu yn sal, gafodd hi trawiad ymenydd. Doeddwn ni ddim yn meddwl bod heddiw yn mynd i fod
yn diwrnod cyfroes tan i mi gael darn enfawr o gacen Mam! Cyn mynd i gwely gwyliais "Room 101" ac wedyn ychydig o ddarllen cyn cysgu.
Dydd Iau
Heddiw codais o'r gwely I fwyta brecwast (sef yogwrt mafon, andros o flasus). Ar ôl tua un awr o brecwast dechreuodd dad i marcio yn ddidrugaredd am tua pedwardeg munud! (Doedd yr marcio ddim yn debyg i fod yn pedwardeg munud on teimlodd fel pedwardeg munud) Pryd daeth amser egwyl cerddais i’r ardd i arddio ac i gael gwared o chwyn. Pryd allan o'r ddaear daeth broga mawr gwyrdd. Roedd yr broga yn tua chwech centimedr o hyd ac ei taldra oedd tri centimedr. Ar ôl hyny dechreuodd dad a fi gwneud gwaith mathamateg ffracsiynau ac canranau. Ar ôl gwneud gwaith mathamateg efo dad cerddais yn ôl i'r tŷ gwydyr i gweld i lle aeth yr broga ond, diflanwyd y broga ac yn ei le roedd yna madfall melyn ac brown ac roedd genddo bol oren fel lliw yr haul yn machlyd. Ar ôl i mi gweld yr madfall golchais fy dwylo ac yna cael swper. Ar ôl swper darllenais ychydig o fy llyfr (Harry Potter)ond pryd daeth yr amser eto i gael darn o cacen Mam, gwnesi yr orau ohono! Ar ôl ychydig o gwylio y teledu dechreuodd nosi roedd hi bron yn amser gwely eto ond ddim ond ar ôl gwylio "Room 101" un waith eto.
Dydd Gwener
Bore'ma codais i gweld pelydrau golau yn sgleinio trwy y lleni. Roedd codi heddiw yn teimlo yn gret oherwydd fydd fory yn sadwrn a bydd dim ysgol fory felly gai ymlacio fory, (fydd heddiw yn diwrnod cyffroes iawn). Cyn dechrau ysgol bwytais brecwast a gwyliais y teledu wrth gwrando ar fy mrawd yn chwyrnu! Pryd daeth amser egwyl cerddodd ein cymydog i cael te gyda ni, efo'i chi o'r enw Louie. Doedd ein cath Dexter ddim yn hoffi Louie o gwbwl ond ar ôl amser dechreuodd Dexter hoffi Louie, cawson cacen a panned o dê. Hyd yn hyn dechreuodd yr tywydd gwella. Pryd gorffenodd amser egwyl roedd hi'n amser gweithio a ysgrifenais fy ngwaith cymraeg. Wedyn dechreuodd i hi glawio felly bwytais brechdan caws wedi'i thostio i'm cynhesu. Ar ol i'mi gorffen fy brechdan, siaradais gyda fy ffrind arall. Pryd gorffenais siarad gyda fy frind gorffenais gwaith mathamateg diddiwedd dad! Cyn swper (ar ôl ysgol gorffen) gwyliais teledu i gwneud amser mynd yn gyflym wrth aros i mam paratoi swper. I swper cawson fish cake brocoli ac sglodion, fel arfer roedd bwyd Mam yn bendigedig.
Pryd edrychais allan (o'r ffenest) un eiliad roedd hi'n heulog a braf, yr eiliad arall roedd glaw yn tollti drost y lle! Ychydig bach yn hwyrach cefais i yr darn ola o cacen Mam! cyn mynd i gwely chwareais efor cath ac helpu garddio, ac yn ola fel arfer gwylio "Room 101" cyn cysgu.
Ond yn sydyn deffrais i clywed y glaw ar gwynt yn rhuo tu allan cyn disgyn yn ôl i gysgu.
