Pan ddaw’r cyfnod o gaethiwed i ben y gorchwyl cyntaf fydda’ i’n ei gyflawni fydd mynd i dorri fy ngwallt.
Ar hyn o bryd rydwi ‘n edrych fel rhyw drawsdoriad rhwng y dyn cyntefig ac epa.
Fe wnaeth un aelod o’r teulu dd’eud fy mod i’n ei hatgoffa o’r llun hwnnw o Albert Einstein pan oedd hi’n ymddangos ei fod on wedi rhoi’i fys mewn soced ac wedi cael sioc drydanol.
Fu gen i ddim cymaint o fwng ers y chwedegau pan oeddwn i’n ceisio edrych fel John, Paul, George a Ringo.
Wrth gwrs, does gen i ddim mwy o wallt ar fy nghorun. Na, fe fyddai hynny yn gofyn gormod, ond mae o’n cyrlio yn gyflym i gyfeiriad fy ngwar ac o gwmpas fy nghlustiau.
Ac ydach chi wedi sylwi - fel rydach chi’n mynd yn hŷn - mae’r blewiach yn tyfu tu mewn i’ch trwyn a’ch clustiau chi gan hongian fel stalagmeits.
Y canlyniad, wrth gwrs, ydy’ch bod chi’n teimlo’n fudr ac yn flêr gan na fedrwch chi wneud dim i’w dacluso fo.
Fȕm i erioed yn un am roi Brylcreem neu gel arno, a dydwi ddim yn bwriadu gwneud hynny rŵan ychwaith. Au naturel imi bob amser.
Ond y drwg ydy pan ddaw’r mymryn lleiaf o awel mae’r gwallt ar ben fy nannedd i, ac mi allwn fod yn Wurzel Gummidge ardderchog i unrhyw ffermwr.
Rydwi’n deall i’r dim yr hyn ddigwyddodd yn Seland Newydd gyda phobl yn ymffurfio’n gynffon hir am hanner nos cyn i siop y barbwr ail-agor y bore canlynol.
Dyna beth mae bod yn desperêt yn ei wneud i chi.
Rydwi’n cofio’n iawn y noson y sylwais fy mod i’n dechrau colli fy ngwallt. Nos Sul oedd hi, roeddwn i’n ddwy ar hugain a newydd gael bath a golchi fy ngwallt ar gyfer mynd at fy ngwaith bore drannoeth.
Wrth ei gribo fo ymlaen fe wnes i sylwi ar fylchau o bobtu’r talcen.
“ Mam, dwi’n colli fy ngwallt,” oedd fy ngwaedd i.
“ Nac w’t. Jest ychydig yn dena’ ydy o ar hyn o bryd. Fe ddaw o’n ȏl sti,” medda’ hitha’ heb fy narbwyllo o gwbl. Un sâl fu mam erioed am dd’eud c’lwydda’.
“Peidiwch â d’eud lyrcs,” meddwn inna’ gan ymylu ar golli deigryn.
Maen nhw’n d’eud mai tynnu ar ȏl ochr eich mam i’r teulu rydach chi mewn materion yn ymwneud â’ch copa.
Wel, roedd ganddi hi bedwar brawd a phob copa walltog ohonyn nhw braidd yn denau ar y corun. Yn wir, aeth yr hynaf yn foel yn ei ugeiniau cynnar. Ac yntau ddwy flynedd ar bymtheg yn hŷn na hi, welodd mam erioed mohono gyda gwallt. Pa obaith oedd imi felly?
Yn y saithdegau doedd dynion ifanc ddim yn eillo’u pennau fel maen nhw’n rŵan. Pe taen nhw’n gwneud hynny, dydwi ddim yn credu byddwn i wedi gwneud Kojak da er fy mod i’n hoffi lolipops.
Na, fe fyddwn i’n edrych fel un o’r ellyllon ar Dr Who gyda’m wyneb main a’m corff meinach.
Rydwi wedi mynd yn un garw am wisgo cap o ryw fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac y mae hynny wedi bod yn achubiaeth.
Yr hyn sydd dan orchudd, nid yw’n ofid im.
Swnio fel adnod yn Y Beibl, yntydi?
Pan ddaw’r gwarchae i ben - ac fe ddaw o i ben - byddaf yn anelu am salon lleol, ac yn gofyn am amcanbris am dacluso’r das wair.
Does ond gobeithio na fyddaf yn gallu’i lapio o fel sgarff o amgylch fy ngwddf erbyn hynny!
O.N. Gwaredigaeth. Rydwi wedi archebu teclyn arbennig ar y we - rasal sy’n torri gwallt. Hir yw pob ymaros. Hirach fyth yw fy ngwallt.
Stan Lyall
