Y Bigwn

Ble mae nhw rwan?

 

Sgwrs gyda Angharad Rowlands

Angharad Rowlands

Angharad Rowlands

 

Lle wyt ti’n byw ar hyn o bryd?

Woolwich yn Ne Ddwyrain Llundain.

Beth oedd y cynhyrchiad diwethaf i ti wneud?

Cyn y pandemig, roeddwn i newydd orffen taith gyda Chôr Monteverdi a Syr John Eliot Gardiner yn perfformio Symffoni Rhif 9 gan Beethoven yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd a Theatr Harris yn Chicago i ddathlu pen-blwydd y cyfansoddwr yn 250 oed. Yn anffodus mae fy holl waith wedi’i ganslo tan 2021 felly ‘dw i’n cadw’r atgof yma yn agos iawn at fy nghalon! 

 

Cefn Llwyfan yn y ROH - Tŷ Opera Brenhinol gyda'r Soprano Rebecca Hardwick

Cefn Llwyfan yn y ROH - Tŷ Opera Brenhinol gyda'r Soprano Rebecca Hardwick

Beth yw dy uchafbwynt gyrfa hyd yn hyn?

Haf diwethaf cefais fy newis i ganu rhan yr 2il Forwyn mewn cynhyrchiad gan David McVicar o Le nozze di Figaro gan Mozart yn Nhŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, Llundain. ‘Dw i ddim yn siwr iawn os wna’i guro’r uchafbwynt yma i ddweud y gwir! Yn ddiweddar, cefais gyfle i ganu mewn dosbarth meistr yn Wigmore Hall – mae wedi bod yn freuddwyd cael canu ar lwyfan Wigmore a ‘dw i’n hapus iawn fy mod wedi’i wireddu.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae cymaint o lefydd yng Nghymru yn arbennig imi ond does unman yn curo’r Afon Ystrad ger y Brwcws yn Ninbych. Pan ‘dw i’n dychwelyd adref i ymweld â nheulu, yma fydda i’n dod am dawelwch meddwl. Mae gen i lawer o atgofion o gerdded ar hyd y caeau ger yr Ystrad pan yn fy arddegau, a dod yma hefo fy mrodyr a Nain Llwyn Bach i nofio yn yr afon yn ystod yr haf.

 

 

Angharad yn perfformio yn Wigmore Hall ym Mis Mawrth 2020

Perfformio yn Wigmore Hall ym Mis Mawrth 2020

Pa artist cerddorol hoffet weithio gyda a pham?

‘Dw i wrth fy modd hefo’r mezzo-soprano Janet Baker. Mae hi wedi ymddeol ers yr wythdegau ond mae hi’n ysbrydoliaeth enfawr imi fel cyd fezzo! O ran cantorion sy’n dal i weithio, fyddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda Bryn Terfel rhyw ddiwrnod. Tra o’n i’n gweithio yn Nhŷ Opera Brenhinol, roedd o yno yn perfformio Boris Gudunov gan Mussorgsky, ond yn anffodus ni wnaeth ein llwybrau croesi! Mae Bryn Terfel yn artist aruthrol ac yn ddylanwad mawr arnaf fel cantores ifanc. Mae hefyd yn ddyn sy’n gofalu am y genhedliad cerddorol nesaf sy’n hollbwysig i etifeddiaeth y celfyddydau.

 

Lle wyt ti’n gweld dy hun mewn 10 mlynedd?

Mi fydda i’n dechrau gradd feistr mewn Llais yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ym mis Medi. Ar ôl gorffen hwnnw, ‘dw i’n gobeithio mynd ymlaen i astudio cwrs opera yn Llundain neu dramor. Mewn 10 mlynedd, rwy’n gobeithio y byddai’n gweithio fel cantores operatig llawn-amser mewn tai opera dros y byd.