Yng nghanol Mis Ebrill 2020, mi glywais ar Facebook am ‘North Wales Covid Face Shield’ sef grŵp gwirfoddol o unigolion gydag argraffwyr 3D, oedd eisiau helpu gyda chynhyrchu offer amddiffynnol personol yn rhad ac am ddim i weithwyr allweddol lleol. Gan ganolbwyntio ar greu bandiau i’w gwisgo ar y talcen, er mwyn dal darn o blastig clir i warchod yr wyneb (visor).

Y peiriant a'i gynnyrch
Gan fod fy arholiadau wedi eu canslo, roedd yn syniad da i ddefnyddio’r amser yma yn adeiladol a gwneud defnydd o’r argraffydd 3D sydd gen i. Argraffydd a oedd, ychydig wythnosau yn ôl yn creu prosiectau ysgol ar gyfer fy nghwrs Lefel A Dylunio a Thechnoleg.

Y bandiau yn barod
Erbyn hyn rydw i wedi argraffu 117 o fandiau ar fy argraffydd i. Mae aelodau’r grŵp wedi dosbarthu dros 4,000 o’r bandiau i staff mewn cartrefi henoed, fferyllfeydd, cartrefi preswyl, ysbytai, hosbis, carchardai a llochesi i’r digartref; a hyn i gyd o fewn yr ardal leol ar amser lle'r oedd gwir angen offer amddiffyn i warchod rhag Covid-19. Yn ôl yr adborth a’r sylwadau sydd wedi cyrraedd y grwp, mae pawb wedi bod yn hynod ddiolchgar mewn amser argyfyngus. Mae’n braf meddwl fy mod wedi gallu gwneud fy rhan yn ystod yr amseroedd digynsail yma i helpu’r rhai sydd ar y rheng flaen.
Mae posib archebu’r offer gwarchod ar dudalen Facebook ‘North Wales Covid Face Shield’.
Deiniol Jones
