Annwyl ddarllenwyr
Fel y gwyddoch, mae Urdd Gobaith Cymru yn wynebu sefyllfa argyfyngus o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac mae dyfodol y mudiad yn un bregus.
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac, ers 1922, rydym wedi cyflawni llawer wrth gynnig profiadau Chwaraeon, Ieuenctid, Celfyddydol, Preswyl, Prentisiaethau, Dyngarol a Gwirfoddoli i fwy na phedair miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn yn ei dro wedi eu galluogi i gyfrannu’n bositif i’w cymunedau, ymestyn eu gorwelion a chynyddu eu hunan hyder. Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i ymfalchïo yn eu gwlad, eu hiaith a’u diwylliant ac yn agored i’r byd a’i werthoedd.
Ond, wrth i brif ffynonellau incwm y mudiad wynebu colledion, sef ein gwersylloedd ar gau i breswylwyr a chyfyngiadau enfawr ar ein gwasanaethau cymunedol, rydym yn rhagweld toriadau incwm o £14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf a dyled sylweddol, o leiaf £3.5miliwn. Mae’n wir i ddweud y gall y ffigyrau yma gynyddu wrth i sefyllfa Covid barhau. Mae’r mudiad hefyd wedi colli hanner ei weithlu o 320 o bobl o ganlyniad i’r toriadau, ac mae’r her yn un na wynebodd y mudiad ei thebyg o’r blaen.
Rydym wedi bod yn agored a gonest ers y dechrau am yr effaith ar y mudiad a’n pryderon am y dyfodol. Rydym hefyd yn trafod yn gyson gyda’n rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru, ac yn ddiolchgar am y cyllid argyfwng tymor byr a dderbyniom hyd yn hyn.
Ond, mae’r her ariannol yn un enfawr, fel yr ydym wedi bod yn ategu mewn sgyrsiau a chyfweliadau ar y cyfryngau. O ganlyniad, daeth llawer o geisiadau am sut y gall pobl ein helpu trwy’r cyfnod anodd hwn, i sicrhau dyfodol i brif fudiad plant a phobl ifanc Cymru. Mae unrhyw gyfraniad, bach neu fawr, yn hynod bwysig i ni ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Felly hoffem rannu gyda’ch darllenwyr yr amrywiol ffyrdd o gefnogi:
- I blant a phobl Ifanc - Os ydych o dan 26, yna ymaelodi yw’r ffordd orau o gefnogi. Dim ond £9 am flwyddyn, neu £25 am aelodaeth teulu a chewch fanteisio ar yr ystod o weithgareddau sydd ar gael, gan gynnwys arlwy digidol amrywiol a chynhwysfawr.
- I Oedolion - Mae ffordd hawdd o gyfrannu trwy’r wefan (urdd.cymru), neu gallwch anfon cyfraniad trwy siec. Byddem yn hynod ddiolchgar petaech yn ei gwneud yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru a’i hanfon at:
- Iwan Tudur Jones
- Adran Gyllid Urdd Gobaith Cymru
- Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
- Llanuwchllyn
- Y Bala
- Gwynedd
- LL23 7ST
Am bob cyfraniad o fwy nag £20, byddwn yn anfon bathodyn arbennig aelodaeth yr Urdd 20-21 fel cydnabyddiaeth, felly cofiwch gynnwys eich cyfeiriad.
Ein haelodau yw ein blaenoriaeth bob amser a byddwn yn parhau i weithredu o fewn ein gallu i sicrhau cyfleoedd amrywiol, cyfoethog a chyfoes i blant a phobl ifanc Cymru. Mewn dwy flynedd, bydd yr Urdd yn dathlu ei ben-blwydd yn gant oed. Rydym yn hyderus y gallwn, gyda help ein cefnogwyr a’r holl ewyllys da sydd tuag at y mudiad arbennig yma, oroesi’r cyfnod anodd hwn ac ail-adeiladu’r mudiad ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Gan ddiolch o waelod calon am yr holl gefnogaeth.
Cofion gorau,
Sian Lewis
Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru