
Clwb Rygbi Dinbych

Y newyddion mawr o Glwb Rygbi Dinbych ydi beth sydd ddim yn digwydd yn hytrach na beth sydd yn digwydd!!
Ym Mis Awst gwelwyd ymarfer rygbi yn dychwelyd ar draws Gymru. Ond, yn dilyn penderfyniad diweddar Lywodraeth Cymru i osod gwaharddiadau ychwanegol yn Sir Ddinbych, cymerodd Undeb Rygbi Cymru'r cam o ganslo ymarfer rygbi yn y sir. Cymysg iawn yw'r ymateb wedi bod, gyda nifer yn pryderu colli chwaraewyr i chwaraeon eraill, sydd yn parhau i gael eu chwarae. Wedi dweud hynny, symudodd y sefyllfa ymlaen yn dilyn cyflwyniad diweddaraf Mark Drakeford, ble nodwyd na fydd unrhyw rygbi neu unrhyw gêm arall cymunedol (amatur) yn cael ei chwarae tan 9fed Tachwedd ar y cyntaf.

Maes Ymarfer Newydd Tachwedd 2019

Maes Ymarfer Newydd Hydref 2020
Gyda dim llawer o obaith o ddod yn ôl i chwarae rygbi yn y dyfodol agos, bu'r Grŵp Rheoli yn brysur ar brosiectau tymor byr e.e. adolygu ac addasu Cynllun Datblygu’r Clwb, adolygu polisïau a dogfennau’r Clwb, ac wrth gwrs, edrych sut i ymateb yn ariannol yn y sefyllfa bresennol.
Tegid Phillips
