Y Bigwn

Awdur: Prydwen Elfed-Owens

ISBN: 978-1-912173-45-7

Prydwen Elfed-Owens

Prydwen_Elfed-Owens

Mae pawb ohonom, mae’n siŵr, yn adnabod rhywun sy’n byw â dementia. Er mai cyflwr corfforol yw dementia - methiant yr ymennydd oherwydd salwch niwro-ddirywiol, yn aml iawn, mae stigma ynghlwm wrtho nad yw’n wir am glefydau dirywiol eraill, megis methiant y galon. Rhan o fwriad y gyfrol hon yw chwalu’r stigma hwnnw a chreu dealltwriaeth well o’r clefyd. Fe’i lansiwyd ar ddiwrnod Alzheimers y Byd, tu allan i Gofal Dydd y Waen, Llanelwy - lle bu Prydwen yn cymryd ei gŵr,Tom,yn wythnosol cyn iddo orfod mynd i gartref ym Mehefin 2019.

Mae’r llyfr yn rhyw fath o hunangofiant, wrth i’r awdur dynnu ar ei phrofiad o ofalu am ei gŵr sydd â dementia. Ond y mae’n llawer mwy na hynny hefyd, oherwydd gofynnodd Prydwen i 13 o ofalwyr, rannu eu profiad hwythau hefyd. 

Dangosodd gŵr Prydwen arwyddion o ddementia o leiaf bum mlynedd yn ôl.

"I ddechrau, pan sylwais ar ei ymddygiad yn wahanol ceisiais ddeall pam. Wyddwn i ddim at bwy i droi. Yna, daeth asesydd anghenion gofalwyr yn Sir Ddinbych i’r fei. Hi oedd yr angel oedd yn fy ngwarchod i tra roeddwn i’n gwarchod fy ngŵr.”

Prydwen a Tom

Bydd elw’r gwerthiant a’r codi arian cysylltiedig yn mynd at hyrwyddo sesiynau ymarferol wythnosol Gofal Dydd y Waen, Capel Waengoleugoed.