Y Bigwn

Hydref 17eg 2020

A dyma ni... saith mis lawr y lein ac yn parhau i wynebu cyfyngiadau llym ar ein bywydau er mwyn “arbed bywydau ac arbed straen ar y GiG”. Mae’r byd i gyd i weld wedi ei lyffetheirio gan hualau “yr hen gofid ‘ma” fel mae bron pawb (sy’n siarad Cymraeg!) yn ei alw. Bydd rhai ohonoch chi’n cofio fel oedden ni’n pryderu gweld troad y mileniwm gan feddwl byddai’r flwyddyn 2000 yn dod â bob math o anawsterau yn ei sgîl... Wel roedden ni ugain mlynedd allan ohoni yn doedden? Mae 2020 wedi dod â mwy na’i siâr o ofid a phoen meddwl nag y byddem wedi gallu ei ddychmygu na’i ragweld.

Am wn i, pan ydych chi’n wynebu anawsterau yn eich bywyd, gallwch ddewis plygu i’r drefn a dal ati orau gallwch chi – neu beidio. Credaf i ni fel cymdeithas yma yn Ninbych wneud ein gorau yn y cyfnod i fyw orau gallwn ni yn y gobaith bod yr haul ar fin codi ar fryn. Gwirfoddolodd peth wmbreth o bobl i helpu eraill a daeth y gymdogaeth at ei gilydd i sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Bu’n gyfnod prysur a gwahanol iawn i’n teulu ni... Ysgolion yn cau, dysgu o hirbell yn gorfod digwydd, arholiadau allanol ddim yn mynd i gael eu cynnal am y tro cyntaf erioed – dyna sioc i ddau athro (fel Cled a finnau) efo dros saith deg o brofiad dysgu rhyngom ni– ond doedd yr un o’r blynyddoedd hynny yn baratoad ar gyfer cyfnod y clo mawr pan mai o flaen sgrîn oedd y rhyngweithio’n digwydd â’r disgyblion.

Testun Arall Delwedd 1

Testun Arall Delwedd 1

Roedd bod ynghlwm i’n cadeiriau am oriau bwy’i gilydd o flaen y cyfrifiadur yn dipyn o straen i’r ddau ohonom – ac os cofiwch chi, dim ond am awr y dydd oedden ni’n cael gadael y tŷ i ymarfer bryd hynny. Manteisiodd y ddau ohonom ar y cyfle i grwydro’n milltir sgwar ar droed bob dydd. Un peth sylwon ni arno oedd cymaint o sbwriel oedd wedi ei daflu mor ddihid yma ac acw gan anharddu’n hardal odidog. Roeddem wedi bod yn rhan o ymgyrch Cadw Cymru’n Daclus rhai blynyddoedd yn ôl ac o’r herwydd, roedd yr offer angenrheidiol gennym i wneud rhywbeth ynglŷn â’r peth... A dyna wnaethom ni ... gwisgo ein siacedi fflworoleuol llachar, codi ein bagiau sbwriel cochion pwrpasol a chymryd ein ffyn codi sbwriel yn ein dwylo – a chlirio ein milltir sgwâr. Dyma un peth bach oedd o fewn ein gallu i’w reoli – ac roedd yn deimlad braf iawn gweld yr ardal yn dechrau gloywi wrth i’r bagiau cochion lenwi. Tristwch pethau ydy ein bod wedi gorfod dal ati drwy gydol y cyfnod gan fod cynifer mor barod i luchio’u sbwriel heb boeni o gwbl am yr amgylchedd sy’n cael ei ddifetha.

 

Testun Arall Delwedd 1

Testun Arall Delwedd 1

 Yn ddiweddar, daeth criw ohonom – dan arweiniad y cynghorydd Mark Young – at ein gilydd i gasglu sbwriel o gwmpas Dinbych. Cynigwyd y  byddem yn dal ati i gwrdd unwaith y mis i gadw ein tref yn daclus ac erbyn ichi ddarllen hwn mae’n bosib bydd yr ail gasgliad wedi digwydd! (Diolch i Eiddwen a Hywel Watkin am drefnu!)

 Bu’n gyfnod caled i’r ferch ieuengaf, Mared, oedd newydd roi gorau i un swydd marchnata yng Nghaerdydd er mwyn cychwyn ar un newydd – ond digwyddodd y cloi mawr cyn iddi arwyddo’r cytundeb ac yn anffodus, bu rhaid i’r cwmni dynnu’r cais yn ôl. Felly doedd dim swydd o gwbl iddi. Yn ffodus, roedd yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y taliad ‘furlough’ gan ei bod mewn swydd hyd at ddiwedd mis Chwefror. Daeth haul ar fryn iddi maes o law, fodd bynnag pan welodd swydd ran amser yn ei maes yn cael ei hysbysebu. Gwnaeth gais am y swydd a bu’n ddigon ffodus i gael cyfweliad drwy hud a lledrith yr hyn a elwir yn Zoom... OND – fel oedd hi’n dychwelyd i’r tŷ ar gyfer y cyfweliad, gwelodd ddyn yn gorwedd yn anymwybodol ar y palmant. Doedd dim amdani heblaw galw am ambiwlans ac aros efo’r claf tan i help ddod. Rhaid oedd ffonio’r cwmni i ymddiheuro a dweud na fyddai’n gallu bod ar gael i’r cyfweliad gan ei bod yn aros am yr ambiwlans. Chwarae teg i’r cwmni, cynigion nhw amser arall iddi yn hwyrach ymlaen y diwrnod hwnnw – derbyniodd Mared y cynnig a bu’n ddigon ffodus i gael cynnig y swydd. Roeddem yn falch iawn ohoni am fod yn fodlon aberthu ei chyfle er lles ei chyd-ddyn – ac yn hynod falch bod y cwmni wedi gweld yn dda i’w phenodi er gwaethaf y ffaith iddi beidio bod ar gael ar gyfer y cyfweliad gwreiddiol.

Cyfnod o furlough fuodd hi i’r mab, Caeron, hefyd. Roedd o ac Elliw, ei ddyweddi, newydd symud tŷ cyn y clo mawr a manteisiodd o ar y cyfle i wneud dipyn o arddio a thrwsio a chynnal pethau yn eu cartref newydd. Ond roedd yn falch iawn o gael dychwelyd i’r gwaith unwaith i hynny fod yn bosib! Gweithio fu Elliw drwy gydol y cyfnod yn Ysbyty Glan Clwyd – cyfnod anodd a phryderus i holl weithwyr y GIG.

Rhyw deimlad oedd – ac ydy’r – cyfnod o ymladd gelyn anweledig. Roeddem yn poeni am y ferch hynaf, Lliwen, a hithau’n feddyg yn yr Uned Gofal Ddwys yn Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd. Roedd hi wyneb yn wyneb â’r gelyn, a hwnnw ar ei greulonaf, am oriau maith a hynny mewn PPE oedd yn mynd yn brinnach ac yn brinnach ond a oedd yn angenrheidiol i’w wisgo am oriau bwy’i gilydd bob dydd wrth ymdrin â chleifion difrifol wael.

Da o beth oedd gweld y gymuned yn curo dwylo i ddiolch i’r GiG bob nos Iau – mae ein diolch iddynt a’n dyled iddynt yn amhrisiadwy. Rhaid inni i gyd wneud ein gorau glas i sicrhau nad yw ein hysbytai’n cael eu goddiweddyd gan yr ail don sydd bellach yn ein bygwth.

Testun Arall Delwedd 1

Bob dydd, byddai Cled a finnau’n cerdded draw o’n tŷ ni ar Ffordd y Rhyl i dŷ fy nhad ar Ffordd Rhuthun. Er mwyn ei ddiogelu, sgwrsio o hirbell yn yr ardd fyddem ni oni bai bod gwirioneddol angen mynd i mewn. Toedden ni’n ffodus i gael tywydd mor braf yn ystod wythnosau cynharaf y llwyrgload? Roedd fel pe tae byd natur yn ein cysuro ar gyfnod mor ddifrifol o anodd.

Un peth bach addunedais i’w wneud ar lefel bersonol drwy gydol y cyfnod oedd cadw ‘cofidiadur’. Myfyrio oeddwn i ar ddiwedd bob dydd ar ddigwyddiadau’r diwrnod hwnnw gan geisio cadw’n optimistaidd a chadarnhaol bob tro. Roeddwn yn anelu am ddeg pwynt y dydd. Un o hoff emynau fy mam oedd ‘Cyfrwch eich bendithion’ – a dyna oeddwn yn ceisio ei wneud drwy gyfrwng y cofidiadur. Roedd yn help enfawr i mi allu gwneud hyn ac roedd yn braf clywed gan eraill oedd yn ymateb i’r myfyrdodau wrth imi eu gosod ar y gweplyfr bob dydd.

Pwy ŵyr beth ddaw dros y misoedd nesaf – ond gyda’n gilydd gallwn drechu’r “hen gofid ‘ma”. Un dydd ar y tro fydd hi – ond daw’r heulwen eto i wenu arnom oll cyn bo hir.

Sian Jones