Mae’n gas gen i orfod llenwi holiaduron. Dyna fo. Rydwi wedi’i dd’eud o, ac rydwi’n teimlo’n llawer gwell.
Y bwrdd nwy, y cwmni trydan, Llywodraeth Cymru, yr Urdd, hyd yn oed Eglwys Bresbyteraidd Cymru – mae pawb am imi lenwi holiadur gan fy sicrhau na chymer hynny fwy na phum munud o’m hamser prin.
Mae rhai cwmnïau ar y ffôn funudau yn unig ar ôl i’r gweithiwr adael y tŷ, a chyn i chi gael amser i weld a fu’i ymdrechion yn llwyddiannus.
Olreit, fe all dyn wrthod llenwi holiadur ar y cyfrifiadur, ond mae’n sefyllfa hollol wahanol pan gewch alwad bersonol ar y ffôn. Dydach chi ddim eisiau bod yn anghwrtais gan dd’eud na wrth y person ifanc ar ben arall y lein, felly rydach chi’n cytuno i gymryd rhan yn yr ymarfer.
Ac y mae o’n ymarfer cwbl ddibwrpas ac ailadroddllyd. Does neb yn cymryd affliw o sylw o’r hyn rydach chi’n dd’eud neu’n ei ysgrifennu. Wel, o leiaf dydwi erioed wedi cael ymateb i’m sylwadau beirniadol gan unrhyw gorff.
Ar raddfa o 1 i 10 - gyda 10 yn ardderchog - gofynnir am eich barn am wahanol agweddau o’r gwasanaeth a gawsoch. Yn eich diflastod, rydach chi’n syrthio i’r fagl o roi 7 i bob agwedd, ac yna yn sydyn mae’r dull o farcio yn newid. Bellach 1 sydd yn ardderchog. Wps, rydach chi wedi’i g’neud hi rŵan, a rhaid mynd yn ôl gam neu dri.
Mae’r pum munud yn troi yn chwarter awr yn aml, ac erbyn i chi gyrraedd y cwestiwn olaf rydach chi wedi syrffedu’n llwyr.
Bellach mae’r cyrff hyn wedi cael rhyw “fwnci” i wneud y gwaith ar eu rhan, ac y mae’r creadur hwn yn disgwyl i chi gynnig eich syniadau chi iddyn nhw.
Cofid -19 i raddau helaeth sydd i’w feio am ddyfodiad y don hon o holiaduron gyda chwestiynau dwl fel, “ Sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arnoch chi?” yn ymddangos. Onid ydy pawb yn gwybod am effaith y gaethiwed arnom ni i gyd, yn unigolion ac yn fudiadau?
A defnyddio geiriau o gân Dafydd Iwan, y neges sydd gen i i’r holiaduryddion ydy’,
“Peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl........
Dim ond ffŵl sydd yn gofyn pam fod eira’n wyn?”
Stan Lyall
O.N. holiaduryddion - dwn i ddim a oes yna’r fath air yn bodoli, ond mae o’n swnio’n dda yn yr achos hwn.
