Y Bigwn

Mae’r wraig yn atgoffa’r plant yn aml mai’r gegin yw ystafell beryclaf y cartref. Mae’n debyg mai dyma pam ei bod yn ceisio osgoi’r ystafell gymaint ag sy’n bosib, hynny yw tan gyda’r nos pan fydd hi angen rhew yn ei gin a thonic! Ond o ddifrif, mae angen cymryd gofal mawr wrth drin pob math o wres bob amser, gan y gall yr anafiadau fod yn erchyll.

Mae llosg yn anaf a geir o ganlyniad i wres trydanol, cemegol, neu ymbelydrol, neu o ganlyniad i sgaldiad, a achosir gan hylif poeth neu stêm. Mae’n bwysig cychwyn cymorth cyntaf cyn gynted ag sy’n bosib yn dilyn llosg, a hynny ar ôl dilyn y rheol euraidd, sef sicrhau eich diogelwch eich hun cyn helpu eraill. Ar ôl cael y person sydd wedi llosgi oddi wrth darddiad y gwres, mae angen tynnu unrhyw ddilledyn sydd heb fod wedi glynu wrth y croen, ac os oes yna fflamau, rhaid eu diffodd â chlwt gwlyb, cyn rhoi’r man sydd wedi llosgi o dan lif parhaol o ddŵr tap am 20 - 30 munud. Yn groes i’r gred boblogaidd, mae’n well osgoi defnyddio dŵr rhewllyd, gan fod tymheredd oer eithriadol yn achosi i’r gwythiennau gulhau ac o ganlyniad yn arafu’r broses o wella.

 Mae hefyd yn bwysig i chi gadw’r person yn gynnes - mae plant a’r henoed yn fwy tebygol o ddioddef hypothermia. Mae hefyd yn helpu os gallwch chi orchuddio’r briw â clingfilm. Gwnewch hyn drwy roi sawl haenen ar ben ei gilydd yn hytrach na’i weindio o gwmpas rhan o’r corff sydd wedi llosgi, gan ei bod yn haws gweld maint y niwed fel hyn, tra’n dal i’w amddiffyn rhag haint.

 Mae anaf a geir o ganlyniad i losg trydanol fel arfer yn llawer dyfnach, felly mae’n bwysig galw ambiwlans yn syth bin. Mae’r un peth yn wir am losg cemegol: er bod rhoi dŵr ar y llosg am tuag awr yn gwneud synnwyr, mae’n bwysicach fyth darganfod pa gemegyn sy’n gyfrifol am yr anaf, gan fod gwahanol gemegau yn achosi gwahanol losgiadau. Mae’r math yma o losg yn debygol o fod yn un dwfn hefyd, felly mae’n hanfodol galw ambiwlans ar unwaith.

Gan fod llosg yn gallu gwneud cymaint o niwed i feinwe’r corff, mae gofyn cael person cymwys i asesu’r llosg. Rydym i gyd wedi clywed am bobl wedi dioddef llosgiadau o wahanol raddau - ond faint ohonon ni sydd wir yn deall beth mae’r gwahanol raddau’n ei olygu? Wel, dyma ddisgrifiad bras ohonyn nhw:

Gradd Un: Llosg arwynebol gyda chochni a phoen ond dim swigod. O’i bwyso, mae’r briw yn pylu ond yn adennill ei liw yn sydyn.

Gradd Dau: Llosg sy’n effeithio haenau uchaf y croen: mae’r croen yn binc gyda swigod arno. O’i bwyso, mae’r briw yn pylu ac yna’n adennill ei liw yn araf.

Gradd Tri: Llosg sy’n effeithio ar haenau dyfnach y croen – gall y croen fod yn sych neu’n wlyb ac mae’n goch, yn diferu ac yn boenus. O’i bwyso, dydi’r croen ddim yn pylu.

Gradd Pedwar: Llosg sy’n effeithio ar holl haenau’r croen a’r haenau isgroenol: mae’r croen yn sych ac yn wyn, yn frown neu’n ddu. Nid yw’n boenus, ond mae golwg lledr arno. O’i bwyso, dydi’r croen ddim yn pylu. Ar gyfer llosgiadau nad ydyn nhw’n ddifrifol, gallwch gymryd tabledi lladd poen arferol fel parasetamol ac ibuprofen, a rhywfaint o codeine hefyd os bydd angen. Does dim tystiolaeth fod gorchuddio’r llosg ag eli o fudd o gwbl: yn wir, gallai gwneud, amharu ar allu’r arbenigwr i asesu’r llosg yn gywir. Ddylech chi ddim ceisio byrstio unrhyw swigod chwaith, rhag ofn i haint fynd i’r briw. Mae yna sawl math o rwymyn a dresin arbennig ar gael i warchod y llosg rhag hyn. Bydd y sawl sydd wedi llosgi angen pigiad tetanws weithiau, yn dibynnu ar natur yr anaf.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Emyr Wynne Evans ar ran Fferyllwyr Llŷn. Diolch am ei ganiatâd.