Y Bigwn

clwb rygbi dinbych

Clwb Rygbi Dinbych

clwb rygbi dinbych

 

Terry'n cael seibiant - Eisteddfod Genedlaethol 2001.

Terry'n cael seibiant - Eisteddfod Genedlaethol 2001.

Terry Bryer

Gyda chalon drom y mae’n rhaid i’r Clwb gyhoeddi marwolaeth cyn-Gadeirydd y Clwb, Mr Terry Bryer, un a oedd yn annwyl iawn ac uchel ei barch gan bawb.

Roedd Terry yn gefnogwr ffyddlon gan ymroi i bopeth oedd yn digwydd yn y Clwb, ac ef fyddai’r cyntaf i wirfoddoli ar gyfer unrhyw un o’r tasgau niferus sy’n cadw Clwb fel ein clwb ni yn rhedeg. Roedd yn ymfalchïo mewn bod yn un o swyddogion Clwb Rygbi Dinbych am bron i 40 mlynedd. Dechreuodd ei gysylltiad â Chlwb Rygbi Dinbych yn ôl ym 1981 pan gymerodd rôl Hyfforddwr oedran Mini/Iau. Gwnaeth ei waith drwy gydol y 1980au a’r 1990au helpu i feithrin a datblygu talent o Ddinbych a’r ardal gyfagos, rhywbeth a fyddai’n dwyn ffrwyth wrth i’r chwaraewyr ddatblygu’n Chwaraewyr Hŷn yn y blynyddoedd dilynol.

O 2004 i 2015, cymerodd Terry rôl Cadeirydd y Clwb a chymerodd falchder yn y swydd, gan ddangos ei haelioni trwy ei ymrwymiad i’r Clwb. Yn ystod y blynyddoedd hynny, bu newidiadau sylweddol i’r cyfleusterau ar Gaeau Les Phillips. Cwblhawyd yr estyniad i’r Clwb, gosodwyd arwyneb newydd i’r maes parcio a gosodwyd Llifoleuadau a Stand ar gyfer Cae y Tîm Cyntaf. Yn 2019, dangosodd y Clwb eu diolch i Terry am ei ddegawdau o ymroddiad i Glwb Rygbi Dinbych trwy enwi Cae y Tîm Cyntaf ar ei ôl - Maes Terry Bryer. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld tîm o Glwb Rygbi Dinbych yn rhedeg allan eto ar y cae hwnnw, a thalu ein teyrnged i’r cyfaill addfwyn, doeth a charedig, sydd wedi ein gadael yn rhy fuan.

Ar ran y Clwb, anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at Phyllis, Gareth, David a’r teulu i gyd yn ystod yr amser anodd hwn.

Gorffwyswch mewn hedd Terry.

Sam Jones


Terry Bryer yn 2017

Terry Bryer yn 2017

Cefais y fraint a’r pleser o adnabod Terry am nifer o flynyddoedd, gan ddod ar ei draws yn wreiddiol ar ganol y saithdegau pan oeddwn i’n chwarae i dîm arall o’r Dyffryn ac wedyn yn hyfforddi timau iau’r clwb hwnnw.  Bellach ymlaen, yn gyntaf fel rhiant ac wedyn fel hyfforddwr a swyddog yng Nghlwb Rygbi Dinbych, wnes i ddod i’w adnabod yn llawer iawn gwell.  Cymro i’r carn oedd Terry, ac yn gefnogwr o’r Sgarlets a Chymru, a gafodd hefyd y pleser o deithio i Dde Affrica i gefnogi’r Llewod ym 1997 ac Awstralia yn 2001, heb sôn am Gwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd yn 2011.

Dyma un enghraifft o ymroddiad Terry i’r Clwb.  Y Clwb oedd yn gyfrifol am faes parcio Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau yma yn Ninbych yn 2001. Treuliodd Terry, fel nifer o aelodau eraill, oriau maith yn paratoi’r safle, a bu ar ei draed bob awr o’r dydd yn ystod deg diwrnod yr Ŵyl.  Erbyn diwedd yr wythnos bu’n rhaid iddo ymweld â’r Inffyrmari i gael triniaeth ar y swigod poenus oedd wedi datblygu ar ei draed!

Ond nid “Dyn Rygbi” yn unig oedd Terry.  Bu’n athro a phrifathro ymroddgar ac ysbrydoledig a bu Phyllis ac yntau’n weithgar dros ben o fewn eu cymuned yn Nhremeirchion ac yn Ninbych a’r cylch.

Roedd Terry’n ddyn o egwyddorion a safonau pendant ac wedi cyffwrdd bywydau a dylanwadu cymaint ohonom, nid yn unig ym myd y bêl hirgron.  Roedd Terry bob amser yn gwmni da, ac fe wynebodd ei salwch yn ddi-gŵyn a gyda dewrder, ond mae gan bawb ddaeth i gysylltiad â Terry atgofion melys iawn ohono.

Yn ôl Tegid Phillips, Llywydd y Clwb, "Roedd yn gymeriad tawel ond cyfeillgar, oedd ag amser i bawb. Roedd bob amser yn sicrhau fod croeso cynnes a diffuant i glybiau eraill oedd yn ymweld â Chlwb Rygbi Dinbych ac roedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn clybiau eraill a'r hyn yr oeddent yn ei wneud. Rydym ni fel clwb gwir yn gwerthfawrogi popeth a wnaeth Terry i ni a bydd pawb sy'n ymwneud â'r gymuned rygbi yn ei golli'n fawr."

I gloi, dyma oedd gan un o’i gyn-ddisgyblion, sydd erbyn hyn yn athro ei hun, i’w ddweud yn syth ar ôl clywed y newyddion trist:

“Roedd Terry'n un o'r bobl ffeindia dwi di nabod erioed ac yn gyn-brifathro i mi yn Nhremeirchion. Cawr o ddyn.”

John Davies