Y Bigwn

Yn Hydref 2020, ysgrifennais erthygl yn Y Bigwn am gysylltiad agos rhwng Dinbych a Clapham, Llundain. Rhannwyd yr erthygl yn ddwy brif ran, gyda’r darn cyntaf yn trafod Clapham, y lle ble ganwyd Margaret Phillips (1926-1985) a oedd yn briod i David Leslie Phillips (1921-1990). Bu'r ddau yn rhieni i fy mrodyr John, Goronwy Siencyn, fy chwaer Mair a finnau, gyda’r teulu yn byw, o 1962,  yn Bryn Collen, Stryd Y Dyffryn, Dinbych. Fel merch ifanc, addolodd fy Mam yn Eglwys Bresbyteraidd Clapham Junction. Aelod arall o’r capel oedd John Hooson, a’i magwyd yn Maelor, Saron ac wedyn Colomendy a’r Graig ger Dinbych.

Academydd o’i gorun i’w sawdl oedd John. Yn ôl ei nai, Y Barwn Emlyn Hooson, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn o 1962-77, prif ddiddordeb John Hooson oedd bywyd a diwylliant Cymru, yn enwedig yn Nyffryn Clwyd a Bro Hiraethog. Bu yn awdurdod ar enwau lleoedd yr ardaloedd hyn, a hefyd ar eu henwogion fel y teulu Myddleton, Thomas Jones a Thomas Gee.

Yng nghanol yr holl drafferthion y Clo Mawr presennol, un fantais a fodolir yw cael mwy o amser i ddarllen. Yn ddiweddar, penderfynais ail gydio ar lyfr a ysgrifennodd fy nhad yn 1977, fel cyfraniad i ddathliad canmlwyddiant Ysgol Frongoch, ble roedd yn brifathro. Enw’r llyfr oed ‘Meandering Through Our Past’ ac nid oeddwn wedi ei ddarllen ers yr 1980au.

Wrth weithio fy ffordd trwy’r llyfr, sioc o’r mwyaf oedd dod ar draws anerchiad a’i cyflwynwyd gan John Hooson yn Niwrnod Gwobrwyo Ysgol Ramadeg Dinbych 1965, blwyddyn cyn i mi ddechrau yn yr Ysgol.

Yn yr araith, trafododd John Hooson am hanes enwau strydoedd Dinbych yn cynnwys Stryd Y Dyffryn a Lôn Parc. Yn ogystal, bu’n rhannu hanes enwau ffermydd, gan gynnwys rhai ger Prion: Rossa Fawr, Rossa Fach, Bryn Rossa a oedd yn wreiddiol ‘Yr Orsedd Fawr’, ‘Yr Orsedd Fach’ a ‘Bryn Yr Orsedd’. Nodir hefyd am Segrwyd Hall, gyda Hooson yn dadlau bod yr enw wedi deillio o’r goedwig leol, Exchequer Wood. Cartref arall sydd yn derbyn sylw trylwyr yw Galch Hill, ble ganwyd Thomas a Hugh Myddleton, unigolion mor amlwg yn Llundain yn amseroedd Elizabeth a James I. Trafodir dau gartref arall, Alavowlia a Colomendy, cartref Hooson pan yn fachgen.

Rhan hynod o ddiddorol yn yr araith yw’r manylion am ‘Denbigh Green’ a ‘Llewenni Green’; nodir sut bu pobl Stryd Henllan yn cael caniatâd i adeiladau tai yn ‘Y Green’ a phreswylwyr Henllan yn derbyn yr un hawl yn Nhrefnant.

I unrhyw un â diddordeb mewn hanes lleol, mae cyfraniad John Hooson i Ddiwrnod Wobrwyo Ysgol Ramadeg Dinbych ym 1965 yn hynod o ddiddorol ac yn werth darllen.

Un cwestiwn i orffen: tybed pa ddisgybl enillodd yr arian am amcangyfrif hyd yr araith?!?!

Tegid Phillips