O’r Llyfrgell
Mae darllen yn ffordd wych o ymlacio a theimlo’n well a gall eich helpu i ddelio â phryderau bywyd. Manteisiwch ar y cynnig sydd ar gael yn eich llyfrgell leol:
Gwasanaeth Archeb a Chasglu
Wyddoch chi bod eich Llyfrgell leol yn cynnig gwasanaeth Archebu a Chasglu yn ystod y cyfnod clo? Cysylltwch â ni gyda’ch archeb ar gyfer chi a’ch teulu, cewch apwyntiad cyfleus i gasglu bag o lyfrau yn saff a di-gyswllt. Rhoddir pob eitem a ddychwelir mewn cyfnod cwarantîn am 72 awr.

Trefor yn llwytho'r fan
Gwasanaeth Llyfrgell I’r Cartref
Os na allwch gyrraedd y llyfrgell oherwydd iechyd gwael, anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu, gall y gwasanaeth llyfrgell i’r cartref ddod â llyfrau ac adnoddau i’ch cartref unwaith y mis. Gallwn ddod ag eitemau i’ch cartref, llety gwarchod, cartref nyrsio neu ganolfan ddydd. Gallwch ddefnyddio ein catalog ar-lein i wneud cais am eitemau 24 awr y dydd.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, eisiau defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell i’r cartref, ffoniwch eich llyfrgell leol.
Grwpiau darllen
Mae rhai o’n grwpiau darllen yn cyfarfod yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, cysylltwch a’r llyfrgell os rydych awydd ymuno neu am ychwaneg o fanylion.
Dechrau Da
Ar gyfer sesiynau Amser Rhigwm Byw Dechrau Da ar gyfer y plant lleiaf a babanod gallwch eu gwylio nhw ar dudalen Facebook a sianel YouTube Dechrau Da Sir Ddinbych.
Llyfrgell 24/7
Mae ein llyfrgell ddigidol ar agor trwy’r amser i lawrlwytho e-lyfrau, e-lyfrau llafar, cylchgronau a phapurau newydd, Theory Test Pro ac Ancestry am ddim o adref, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/llyfrgelloedd
Borrowbox
A ydych wedi defnyddio ein casgliad o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar sydd ar gael am ddim drwy Borrowbox? Lawrlwythwch ap @Borrowbox i gael deunydd yn syth i’ch dyfais. Ceir e-lyfrau Cymraeg a Saesneg i oedolion a phlant arno.
Oriau cyswllt Llyfrgell Dinbych
- Dydd Llun: 9.30am i 1pm, 2pm i 4.30pm
- Dydd Mawrth: 9.30am i 1pm, 2pm i 4.30pm
- Dydd Mercher: 9.30am i 1pm, 2pm i 4.30pm
- Dydd Iau: ar gau
- Dydd Gwener: 9.30am i 1pm, 2pm i 4.30pm
- Dydd Sadwrn: 9.30am i 12.30pm
Ffôn – 01745 816313
E-bost -
