Wythnos 39 – Nos Sadwrn
Pwy wnaeth ddwyn y Nadolig? Mark Drakeford a gaiff y bai gan lawer o bobl, ond ai bai ni ein hunain ydy’ hyn sydd newydd ei gyhoeddi heddiw, sef cwtogi’r cyfnod o ras o 5 i un, sef diwrnod Nadolig yn unig?
Fe wnaeth y cyhoeddiad ganol yr wythnos o dorri’r nifer o deuluoedd a allai ymgynnull o dan do - o dri i ddau - achosi penbleth i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Wedi’r cyfan, dydy o ddim yn deimlad braf torri’ch gair i anwyliaid.
Ond mae cyhoeddi cyfnod clo llawn o heno ymlaen yn pentyrru ar yr anawsterau i bobl sydd wedi gwneud eu trefniadau yn barod o ran teithio a threulio cyfnod yr Ŵyl oddi cartref.
Gyda’r nifer o achosion allan o reolaeth doedd gan yr un o lywodraethau Prydain unrhyw ddewis ond gwasgu ar ein rhyddid ymhellach. Does ond gobeithio daw’r ystadegau i lawr a chawn godi rhai o’r cyfyngiadau hyn yn y dyfodol agos yn hytrach na’r hir dymor.
Dydy ddim wedi bod yn gyfnod da iawn inni yng Nghymru- graddfa cofid ar gynnydd yma yn fwy nag unrhyw ran arall o Brydain, dydan ni ddim yn gallu cyfrif o ran cadw ystadegau ac rydan ni’n uchel ar y rhestr o wledydd y byd sy’n llygru’r awyrgylch gyda’n nwyon gwenwynig.
Ond y mae’n hiaith ar gynnydd. Yn 2020 y mae’r nifer o bobl sy’n dysgu’r Gymraeg drwy duolingo wedi cynyddu’n fwy nag unrhyw iaith arall. Hwre! Ar raddfa byd-eang y mae yna filiwn a hanner o ddysgwyr Cymraeg. Ffantastig!
Rhywbeth bach i godi’n calon ni ar drothwy’r Nadolig.
Ai “Ganol gaeaf noethlwm” fydd rhif un yn siart y carolau eleni?
Wythnos 40 – Nos Wener
Dyna ddiwrnod Nadolig rhyfedd iawn drosodd. Pam rhyfedd? Wel, doedd yna ddim plant allan ar y stryd ar gefn eu beiciau newydd, a dim pobl i’w gweld yn ymweld â theuluoedd. Mwy o armagedon nag o ddathlu, dybiwn i.
Cofiwch chi, mae’n debyg, fod yna rai pobl yn falch mai drwy gyfrwng ffôn neu gyfrifiadur roedden nhw’n gorfod goddef Yncl Stan neu Anti Ann. O leiaf, roedd modd pwyso botwm ar ôl hanner awr a rhoi’r bai ar blip technolegol.
Un peth, yn anffodus, na fu newid arno oedd ystadegau Cofid-19. Dal ar gynnydd y maen nhw a does yna ddim gobaith o ostyngiad yn y niferoedd o achosion am beth amser. Cymhlethwyd y sefyllfa ychydig gan ymddangosiad amrywiolyn (erthyl o air!) o’r feirws.
A dyma’r hen Boris wedi cael ei gytundeb Brexit o’r diwedd. Amser a ddengys sut gytundeb fydd hi. Mae’r hyn a ddigwyddodd ym mhorthladd Dover yn awgrymu’n gryf mor rhwydd fydd hi i Ffrainc achosi trafferthion i wledydd Prydain os mai dyna’i dymuniad.
A dyma’r newyddion diweddaraf i chi. A hithau yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn, rydwi wedi penderfynu cau pen y mwdwl ar y golofn hon. Pan ddechreuais ysgrifennu yn ôl yn y gwanwyn feddyliais i erioed y byddwn yn trafod yr un testun am dros ddeugain wythnos. Tair wythnos oedd yr awgrym am hyd y pandemig ar y cychwyn er i’r gwyddonwyr rybuddio y gallai ymestyn hyd at un wythnos ar bymtheg.
Bu’n gymysgfa o obaith ac anobaith, digwyddiadau difrifol a rhai ysgafnach. O gofidiots ac o Dominic (pwy oedd hwnnw, deudwch?) Cummings. O wyddonwyr di-emosiwn yn eu siwtiau llwydaidd, o sylw haeddiannol i’r mud a’r byddar. Ac o blant Cymru yn dangos eu doniau yn Steddfod rithiol yr Urdd gyda’u rhieni dosbarth canol am y gorau i ddangos yn y cefndir eu telynau, eu Kyffins a’u silffoedd llyfrau.
Byddwn, fe fyddwn ni’n cofio 2020 am un rheswm yn arbennig – y pla dinistriol a newidiodd ein bywydau ni oll.
Stan Lyall
