
Annwyl ddarllenwyr,
Fel rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae Urdd Gobaith Cymru wedi – ac yn parhau – i wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ei hanes o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Rydym wedi gorfod colli hanner ein gweithlu (dros 160 staff) ac yn rhagweld colled incwm o oddeutu £14M dros y ddwy flynedd nesaf. Oni bai am gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru bydden ni wedi bod mewn sefyllfa llawer mwy trychinebus, a’r gefnogaeth ariannol ychwanegol wedi ein galluogi, yn syml, i gadw ein pennau uwchben y dŵr a sicrhau y bydd Urdd yn gallu goroesi.
Mae hi wedi bod yn gyfnod o bryder mawr, ac mae gwaith caled iawn o’n blaenau o hyd. Ond, rwyf yn hynod falch ein bod fel mudiad wedi gallu arall-gyfeirio rhai o’n gwasanaethau er mwyn cadw cysylltiad gyda’n haelodau.
Mae ein gwersylloedd wedi agor eu drysau i gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc bregus, rydym wedi sefydlu cyfleodd ddigidol yn ein meysydd Ieuenctid, Chwaraeon a’r Celfyddydau, yn parhau i redeg ein gwasanaeth Prentisiaethau, wedi llwyddo i hyrwyddo Neges Heddwch ac Ewyllys i gynulleidfa o dros 37 miliwn, wedi cynnal Eisteddfod T llwyddiannus ac wedi creu a chynnal digwyddiadau rhyngwladol rhwng aelodau’r Urdd a phobl ifanc Alabama a’r Iwerddon.

Siân Lewis a Mistar Urdd
Braint oedd cael hefyd cydweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru wrth lansio ein hymgyrch codi arian, ‘Het i Helpu’, cyn y Nadolig. Mae’r gefnogaeth a ddangoswyd i’r Urdd yn ein cymunedau ar draws Cymru (a thu hwnt!) wedi codi ein calon ni fel mudiad, a fedraf i ddim diolch ddigon i bawb sydd wedi’n cefnogi.
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o blant a phobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn
agored i’r byd ac yn ymgorfforiad o’n hiaith a’n diwylliant ac ar drothwy ein canmlwyddiant rydym yn edrych i’r dyfodol gydag agwedd bositif ac hyderus. Mi ddaw’r Urdd drwy’r cyfnod yma, yn gryfach ac yn barod i weithredu er budd plant a phobl ifanc Cymru unwaith yn rhagor.
Diolch o waelod calon i chi am yr holl gefnogaeth.
Cofion gorau,
Siân Lewis
Prif Weithredwr
Os hoffech wneud cyfraniad tuag at yr Urdd gallwch wneud hynny drwy ymweld â’n gwefan (https://urdd.cymru/cyfrannu), neu drwy anfon siec yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru at:
Adran Ariannol Urdd Gobaith Cymru
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Llanuwchllyn
Y Bala
Gwynedd
LL23 7ST
