Yr Eryr
Nac ydw, dydw i ddim wedi troi’n naturiaethwr nac am ddechrau ysgrifennu cerddi am yr aderyn hardd hwn, ond yn hytrach rydw i am geisio taflu goleuni ar gyflwr gweddol gyffredin ond yn eithaf poenus o’r un enw. Herpers Zoster ydi’r term meddygol am yr Eryr, sef afiechyd firysol sy’n datblygu’n frech boenus ac yn swigod llawn hylif ar y croen. Fel arfer, mae’r frech yn effeithio ar un ochr i’r corff yn unig, y frest yn aml, ond weithiau’r pen, yn wyneb a’r llygaid, a hynny’n aml mewn rhesen daclus!
Mae’r Eryr yn cael ei achosi gan yr un firws â brech yr ieir- y firws varicella zoster. Pan fyddwch yn gwella o frech yr ieir, bydd y rhan fwyaf o’r firws yn cael ei ddinistrio, ond bydd peth yn goroesi ac yn aros yn y corff. Dydi hyn yn effeithio dim arnoch chi, ond gall gael ei ailysgogi yn nes ymlaen yn eich bywyd pan fydd eich imiwnedd yn wan oherwydd oedran, straen, problemau iechyd meddwl neu gyffuriau sy’n lleihau’r imiwnedd.
Mae’r symptomau cynnar yn debyg i sawl cyflwr arall: cur pen, gwres uchel a theimlo’n gyffredinol wael, felly mae’n anodd ei adnabod ar unwaith. Ond o fewn dau neu dri diwrnod (ond gallaf fod hyn at dair wythnos), mae’r frech amlwg yn datblygu, sy’n ei gwneud yn llawer haws cadarnhau’r cyflwr. Yn ogystal a’r frech, y cosi, y llosgi a’r pinnau bach fe geir gwayw a phlaciau o boen enbyd bob hyn a hyn. Mae hyn yn ddigon drwg pan fydd yn effeithio’r corff, ond pan fydd ar yr wyneb, neu yn y llygaid, mae’n annioddefol. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi gweld sawl claf mewn poen difrifol yn y fferyllfa, a ffyrnigrwydd yr afiechyd o gwmpas eu llygaid yn arwyddocaol o hynny. Fel rheol, mi fydd y swigod yn crawennu o fewn saith i ddeng niwrnod ac yna’n dechrau clirio. Fe all arwain at greithio mewn rhai unigolion anlwcus, a chymhlethdodau meddygol mewn eraill.
Ond fel bob amser, yn debyg i’r ‘Lone Ranger’ ers talwm, mae Fferyllwyr Llŷn wrth law gyda chyngor a chyffuriau i’ch helpu drwy anesmwythdra! (Dw i newydd gael darlun yn fy mhen o Llŷr ar gefn ceffyl gwyn a Dafydd Brunelli fel Tonto wrth ei ochor- dw i’n dechrau dysgu yn bendant!)
Mae yna frechiad byw ar gael bellach i ddiogelu rhag yr Eryr, ac yn 2013 fe gafwyd caniatâd i’w gynnig i oedolion rhwng 70 a 79 mlwydd oed (dw i’n deall fod geraldine wedi rhoi ei henw i lawr). Doedd y rhai sydd mewn grym ddim yn ystyired ei bod yn gost effeithiol cynnig y brechiad i bobl iau na 70 oed. Yn sicr, y brechiad hwn yw’r dull mwyaf effeithiol o rwystro’r haint; ar ôl cael eich brechu, byddwch fwy na thraean yn llai tebygol o gael yr Eryr. os bydd yr afiechyd yn digwydd datblygu ynoch chi er gwaetha’r brechiad, yna mae’n fwy na thebyg y bydd yn ysgafnach ac yn para am lai o amser.
Fel brech yr ieir, rhaid aros i’r Eryr wella a chlirio yn ei amser ei hun, ond mae’n bosib lleihau ffyrnigrwydd a pharhad y symptomau.
- Mae sawl gwahanol fath p gyffuriau lladd poen i’w cael dros y cownter-bydd eu cymryd yn rheolaidd yn gwneud bywyd y dioddefwyr yn llawer haws.
- Mae cyffuriau gwrthfirysol ar gael ar bresgripsiwn, ac yn cael ei heffeithiolrwydd yn dibynnu ar ba bryd y cânt eu defnyddio.
- Fel bron bob amser, mae steroidau hefyd wrth gefn i’w defnyddio ar y cyd a’r uchod.
Felly cofiwch, os ydych chi’n amau eich bod yn dechrau hel am yr Eryr, da chi, galwch i mewn i’r fferyllfa am gyngor, ond peidiwch â styrbio’r ceffylau sydd wedi’u clymu tu allan!
(Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Emyr Wynne Evans ar ran Fferyllwyr Llŷn. Diolch am ei ganiatâd.)
