Anrheg Penblwydd Ysgol Twm o’r Nant yn 60 oed

Rhai o'r disgyblion yn darllen
Bu i Ysgol Twm o’r Nant droi yn 60 oed yn mis Medi 2020, ond yn anffodus oherwydd effaith pandemig Covid-19 nid oedd yn bosib dathlu y garreg filltir hon. Mae’r Ysgol, y staff a’r disgyblion wedi addasu yn arbennig i’r newidiadau sydd wedi dod yn sgil hyn. Er hyn i gyd mae’r angen am lyfrau yn parhau. Yn ystod y cyfnod addysgu o bell mae’r defnydd o lyfrau yn llai ond cyn gynted a bydd y disgyblion nol mae casgliad llyfrgell yr ysgol yn yr adrannau angen ei diweddaru. Rydym yn galw ar ffrindiau - hen a newydd, rhieni, teulu a chyn ddisgyblion i brynu llyfr i’r ysgol fel anrheg penblwydd. Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon wedi trefnu gwefan lle gellir cyfrannu rhodd i’r ysgol i brynu’r llyfrau a hynny drwy gyd-weithio efo Siop Clwyd Dinbych. I gyfrannu y cyfeiriad yw https://tinyurl.com/twm60 . Os yw’r rhodd yn £5 neu fwy fe wnawn ddynodi yn y llyfr gan bwy mae’r rhodd. Yn ogystal ein ymgyrch arall i godi arian yw cymryd rhan mewn loteri ‘Your School Lottery’, er mwyn sicrhau eich ticed i gael cyfle i ennill y wobr ysgol wythnosol neu y jacpot cenedlaethol ymwelwch a’r wefan tinyurl.com/lototwm. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Os hoffech ein dilyn ar Facebook - CRhA Ysgol Twm o’r Nant PTA neu Trydar CRhaTwmPTA@crhatwm>

