Gwefr heb Wifrau

Cylchgrawn Y Wireless World
Cyflwynwyd rhifyn Chwefror 8fed, 1935, o gylchgrawn ‘The Wireless World’ i Amgueddfa Gwefr heb Wifrau yn ddiweddar. Cyhoeddwyd y cylchgrawn poblogaidd hwn yn wythnosol o’r tridegau ymlaen a chynhwysai wybodaeth ac adolygiadau o’r derbynyddion radio a theledu diweddaraf ac erthyglau technegol ar gyfer pobl a ymddiddorai yn y maes.

Hysbyseb Falf Osram
Yn ogystal, roedd gwybodaeth am y BBC a’i raglenni ynddo a manylion am ddarllediadau, cyngherddau gan fwyaf, o rai o wledydd Ewrop roedd yn bosib eu derbyn yn y DU. Mae enghraifft o’r falf Osram PX25 a hysbysebir ar gefn y cylchgrawn, ac a welir yn y llun yma, yn yr arddangosfa yn yr Amgueddfa.

Radio Mullard
Mae’r radio Mullard MAS15 hwn yn rhan o’r arddangosfa yn Ystafell y Pedwardegau yn yr Amgueddfa. Mae’n dderbynnydd o ansawdd uchel a gynhyrchwyd yn 1939 ac a gostai 10 gini. Yn dechnegol, roedd yn debyg iawn i’r Philips 650A a gynhyrchwyd yn Eindhoven yn yr Iseldiroedd. Cychwynnwyd Cwmni Falfiau Radio Mullard gan Capten Stanley Mullard yn 1920 a chafodd ei brynu gan Philips yn 1923 er mwyn ceisio diwallu anghenion technegol y BBC a oedd newydd gael ei ffurfio. Parhaodd y cwmni i gynhyrchu falfiau, ac wedyn transistorau, am flynyddoedd yn ogystal ag amrywiaeth o radios a derbynyddion teledu.

Dyma’r darlithiau nesaf yng nghyfres ar-lein yr Amgueddfa ynghyd â Cwmulus:
Ar 12.02.2021, bydd Mike Farnworth yn siarad am Cantre’r Gwaelod, yr Atlantis Cymreig. Bydd yn adrodd stori Cantre'r Gwaelod ac yn ystyried sut gallai’r stori fod wedi tarddu, sut mae hi wedi parhau yng nghof y genedl, a sut byddai pentref yng Nghymru fodern yn diflannu yn yr un ffordd.
Ar 26.03.2021, bydd Pegi Talfryn yn cyflwyno darlith Gymraeg ar Santesau Celtaidd – y fam, y forwyn a’r ffeminist. Bydd yn trafod hanes rhai o’r prif santesau Celtaidd, gan ddefnyddio elfen gref o chwedleua a dehongliadau newydd o’r hen straeon.
Ar 23.04.2021, bydd Lesley Bordoli yn sôn am Sgowtio Sans Frontieres ac yn darlunio hanes y Sgowtiaid ers eu sefydlu yn 1907, gyda’r pwyslais ar weithgareddau awyr agored, at Mudiad Sgowtio rhyngwladol heddiw, a’r pwyslais ar gyflwyno sgiliau ar gyfer y byd cyfoes.
Croeso cynnes i bawb. Bydd y sgyrsiau yn cychwyn am 7.00 y.h. a rhaid cofrestru o flaen llaw - edrychwch ar y gwefannau uchod neu ar dudalen Facebook Gwefr heb Wifrau am fanylion. Cofrestru ar gyfer y darlithoedd gan gynnwys yr un Gymraeg Santesau Celtaidd yma.