Mae crafangau'r Gaeaf wir wedi gafael amdanon ni'r wythnosau diwethaf; gyda’r nosweithiau yn aml yn disgyn o dan y rhewbwynt, mae’n anodd arnom ni heb sôn am bopeth arall sydd tu allan i waliau ein cartrefi clyd. Yn wir, dim ond y caletaf o bethau sydd yn gallu goroesi'r fath amodau, ond mae rhai planhigion yn yr ardd yn crafu bywoliaeth. Mae rhai o’r planhigion hyn yn cynnwys sbrowts, cennin a nionyn gwanwyn sydd yn ddigon hapus i dyfu'r adeg yma o’r flwyddyn. Meddyliwch am eich gardd llysiau fel oergell, mae’r holl lysiau sydd yn tyfu yn eich gardd yn cadw yn well yn fanno na unrhyw le, ac mae nifer o fathau o lysiau ; pannas, bresych, cêl, swêj, cennin, betys yn barod i’w codi o’r ardd a’u taflu yn syth mewn i’r sosban. Mae wir yn syndod faint o amrywiaeth o lysiau sydd ar gael i bigo yr adeg yma o’r flwyddyn.

Plannais y bylbiau nionod gwyrdd yma i mewn ym mis Medi ac maen nhw bellach wedi cryfhau a llechio dail. Mae’n bosib pigo'r rhain fel maen nhw barod ac maen nhw’n wych mewn salad, neu mewn ‘stir fry’.

Mae siŵr os faswn i yn cael dewis un llysieuyn i dyfu, y genhinen fase honno. Mae hi’r llysieuyn hawsaf i dyfu, sydd prin angen sylw. Mae hi’n imiwn i afiechydon, ac yn defnyddiol iawn mae’n gallu cael ei chynhaeafu am bron hanner y flwyddyn. Pwysicaf oll dydy slygs ddim yn cyffwrdd nhw… yr arogl mae raid.

Mae’r planhigion sbrowts yma wedi gweld dyddiau gwell. Yr adeg yma o’r flwyddyn mae hi’n gyfnod perffaith i’w cynhaeafu.

Setiau nionod, garlleg a sialóts

Hau nionod
Rwyf wedi arbrofi eleni gan hau nionod o hadau yn hytrach na phrynu setiau o’r ganolfan arddio. Mi wnes i gadw blodau nionod, eu sychu a chasglu'r hadau a’u hau nhw ar ddechrau mis Tachwedd. Maent i weld yn dechrau cryfhau yn y mymryn o oleuni a gwres yr haul y dyddiau diwethaf.
Yr adeg yma o’r flwyddyn mae hi’n anodd mentro i’r ardd, dim ond ar y diwrnodau sychaf fyddai’n mentro i weithio. Heb os, mae dal gwaith sydd angen ei wneud. Mae rhai’n yn cynnwys y canlynol.
1. Dyma’r cyfle cyntaf ers yr Hydref i blannu setiau nionod, sialóts a garlleg er mwyn iddyn nhw fod yn barod i bigo ym mis Mehefin.
2. Heuwch Broad Beans yn syth i mewn i’r pridd os nad yw’r ddaear wedi rhewi.
3. Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu perllan neu blannu coeden/ clawdd ffrwythau, dyma eich cyfle. Tyllwch dwll digon llydan a dwfn i’r gwreiddiau a chofiwch llechio gwrtaith, fel compost neu dail i fwydo’r planhigyn.

Hadau
Gwnewch y mwyaf o’r amodau oer a gwlyb i ganolbwyntio ar wario amser yn trefnu eich storfa hadau. Casglwch restr o’r llysiau sydd gennych ac y rhai sydd arnoch ar gyfer y tymor i brynu o’r ganolfan arddio.
Mae’n bosib hau'r hadau canlynol y mis hwn i gael cynhaeaf cynharach. Rhowch gynnig arni ond cofiwch peidiwch a llechio’r holl baced i mewn, rhag ofn i’r tywydd droi ac oeri; bydd yr hadau o bosib yn methu.
- Broad Beans
- Sprowts
- Pys
- Radish
- Sbigoglys
- Brocoli egino (sprouting)
- Nionod
- Cennin
- Letys
