Ydach chi’n cofio rhaglen deledu rai blynyddoedd yn ôl a oedd yn dwyn y teitl “How Do they Do That?”
Ydach, rydach chi’n gywir. Do, fe wnaeth siop gymunedol Y Groes ymddangos ar y rhaglen. Yn anffodus, daeth dyddiau’r siop honno ar y groesffordd yn y pentref i ben ers peth amser bellach.
Dyma gwestiwn i chi. Beth sydd yn achosi ichi ofyn sut maen nhw’n gwneud neu - efallai yn fwy perthnasol - sut oedden nhw’n gwneud hyn yna ers talwm?
Wel, sut oedden nhw’n gwneud dau beth sydd yn mynd â fy mryd i - jig-so a chopïau o luniau.
Wrth gwrs, mae’r dechnoleg fodern wedi hwyluso llawer ar brosesau fel hyn. Y mae’r Bigwn - fel popeth arall sy’n cael ei argraffu - yn brawf o hynny. Pob llun o’r un safon os nad gwell na’r gwreiddiol. Dim metal tawdd yn agos i’r broses.
Ond sut ar wyneb y ddaear oedden nhw’n gwneud cannoedd os nad miloedd o’r un jig-so ddegawdau yn ôl? Sut oedden nhw’n gallu torri’r darnau yr un fath bob tro, a sut oedden nhw’n sicrhau bod yna yr un faint o ddarnau ymhob bocs o’r un jig-so?
O ran lluniau, meddyliwch am y llun o Salem a fu ar barwydydd cannoedd os nad miloedd o gartrefi yng Nghymru ers dechrau’r ugeinfed ganrif. Sut gafodd y rheini eu cynhyrchu?
Rydwi’n gwybod mai prentisiaid arlunwyr enwog wnaeth gynhyrchu copïau o luniau enwog, ond pan welwch chi ar gornel llun 44/500- sef dyma rif 44 allan o 500 copi- fedrwch chi ddim peidio â chrafu’ch pen.
Wel fe wnes i gwglo (gair Cymraeg da?) am y ddau beth a darganfod esboniadau ân y ddwy broses. Maen nhw’n rhy gymhleth imi eu hesbonio yma, ond gallaf ddweud fy mod yn llawn edmygedd o’r arloeswyr yn y ddau faes. Dyna ddyfeisgarwch o’r frad flaenaf.
Yn yr un modd, rydwi’n edmygu’r bobl hynny sydd wedi dargyfeirio’u busnes yn ystod y misoedd diwethaf yn hytrach na rhoi’u pennau yn eu plu a d’eud ei bod hi ar ben arnyn nhw.
Wrth gwrs, fedr pawb ddim g’neud hynny oherwydd natur eu busnes, ac y mae rhywun yn teimlo drostyn nhw.
Gyda llaw, diddorol oedd darllen y gallai gymryd dwy fil o oriau - ia dwy fil o oriau - i greu a chynhyrchu jig-so. Felly peidiwch â cholli’ch limpyn Misus Jones pan nad ydy’ ambell ran ohono yn dod yn rhwydd i chi. Amynedd ydy’r gair allweddol.
Rydwi’n dyheu am weld y cyfnod clo hwn yn dod i ben, a hynny am reswm cwbl hunanol. Fe fu hi’n anodd cynhyrchu’r golofn hon dros y misoedd diwethaf. Rydwi’n dibynnu’n helaeth ar bobl eraill, dibynnu arnyn nhw i dd’eud neu wneud rhywbeth a fydd yn fy ngogleisio neu fy ngwylltio.
Ar hyn o bryd rydwi’n dibynnu ar syniadau gwirion a ddaw imi yn oriau mân y bore pan fo cwsg yn gwrthod ymweld â mi.
Ond ydy hi’n rhyfedd fel y gall rhywun syrthio i gysgu yn y gadair esmwyth ar ôl cinio wrth wylio’r teledu?
Stan Lyall
