
Beth Celyn
Beth Celyn
Lle ti'n byw ar hyn o bryd?
Dwi'n byw yng Nghaernarfon ar hyn o bryd. Nes i symud yn ôl i'r gogledd mis Medi diwethaf ar ôl dwy flynedd yng Nghaerdydd. Dipyn o beth oedd symud yng nghanol pandemig! Ond dwi'n falch iawn o fod yn agosach at adre ac ymysg ffrindiau da yn nhre'r cofis.
Beth oedd y cynhyrchiad / perfformiad diwethaf i ti fod yn ymwneud gyda?
Cyn y Nadolig rhyddhaodd y band gwerin Vrï EP Nadolig a dwi'n canu y gân blygain hyfryd 'Roedd yn y Wlad Honno' arno. Rhyfedd oedd recordio dros bellter yn ein cartrefi! Mae'r EP ar gael yn ddigidol ar wefan Vrï ac ar Bandcamp.

Beth yn canu gyda Vrï yn Last Night of the Proms (Jordan Price Williams ar y Soddgrwth yn y cefndir)
Beth yw dy uchafbwynt gyrfa hyd yn hyn?
Roedd cael perfformio 'Ar Lan y Môr' hefo Vrï yn The Last Night of the Proms mis Medi diwethaf yn arbennig, yn enwedig a finnau wedi gweithio fel stiward yn y Royal Albert Hall o'r blaen.
'Nathon ni recordio y trac sain o'n cartrefi yna'r fidio gweledol ar y traeth yn Ninbych y Pysgod hefo criw cynhyrchu. Roedd o'n hollol swreal gweld fy hun yn canu ar BBC 1.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n ddiolchgar am y foryd yng Nghaernarfon ar hyn o bryd. Mae'r machludau dros y gorwel yn anhygoel a fydda i'n hoffi mynd am dro dros Bont yr Aber a cherdded ar hyd y traeth.
Lle wyt ti'n gweld dy hun mewn 10 mlynedd?
Dim syniad! Os fydda i'n dal i ganu, creu miwsig a 'sgwennu - a phrofi anturiaethau lu wrth wneud rhain - fydda i'n fodlon fy myd.
