Yn dawel, fore Sadwrn 28ain Tachwedd , yng ngofal ei theulu ac yn ei chartref Bwlch Cynnud, Dolwyddelan, bu fawr Hilda Williams yn 81 mlwydd oed, ar ôl wynebu ei chystudd olaf gyda dewrder a sirioldeb rhyfeddol. Bu’r angladd ddydd Iau, 10ed Rhagfyr 2020, gyda gwasanaeth byr ar yr aelwyd ym Mwlch Cynnud ac yna gwasanaeth preifat i aelodau’r teulu a chyfeillion agos, yn ôl ei dymuniad, yn Amlosgfa Llanelwy a’r cyfan dan ofal y Parch Gerwyn Roberts B.Th. Yn ystod y gwasanaeth cafwyd teyrnged weledol fer sef cyfres o luniau teuluol ynghyd ag enghreifftiau o hoff gerddoriaeth Hilda a theyrnged arbennig o ddidwyll a chynnes i’w Nain gan un o’i hwyresau, Dr Buddug Elen Reeves.
Ganwyd Hilda yn Cefn Bach Siloam, yn bumed o naw plentyn Myfanwy a Stanley Davies. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i ffermio yn Eidda Fawr, Cwm Eidda, ac yna yn Dylasau Isaf. Roedd Stanley ei thad yn fab Bryn Tân, Gwytherin, a’i mam Myfanwy ( Vaughan cyn iddi briodi) yn ferch Moeliwrch Uchaf , Nebo, ac roedd Hilda yn ymfalchïo bob amser yn ei thras, o’r ddwy ochr. Ar ôl mynychu Ysgol Gynradd Ysbyty Ifan ac Ysgol Pentrefoelas, lle’r oedd yn prefect, bu’n gweithio i ddechrau ym Mhlas Iolyn, Pentrefoelas, y gofalu am wraig ddall ac yna am gyfnod hapus iawn gyda teulu ei thad ym Mryn Tân, Gwytherin, cyn mynd i ofalu am ei thaid, Thomas Vaughan, ym Moeliwrch Uchaf. Yna, yn Awst 1958 priododd â Ieuan Berwyn (IB) Williams, mab hynaf Cilcennus, Llanrwst, ac ymgartrefodd y ddau yn Nhŷ Isaf, Dolwyddelan, un o ffermydd y teulu, ac yno y ganwyd y ddwy ferch hynaf, Gwerfyl a Nia.
Yn 1963 penderfynwyd symud i weithio ar fferm sylweddol iawn yn Bickerton, Swydd Caer, ac aros yno hyd 1966 pan ymunodd Ieuan â staff y Weinyddiaeth Amaeth fel swyddog maes, swydd y bu ynddi am bron i bedair mlynedd ar ddeg. Dyna’r adeg y symudodd y teulu ifanc o Swydd Gaer i ardal Abertawe gan ymsefydlu yn ardaloedd Cilâ a Dynfant hyd ddiwedd 1969 ac yn ystod y cyfnod hwn y ganed y ddau blentyn ieuengaf, Gwawr ac Euros. Daeth Ieuan yn rhinwedd ei swydd i adnabod daearyddiaeth a thirwedd De Cymru, o’r Gŵyr i Drefynwy, fel cefn ei law, a gwnaed llawer o ffrindiau da. Yn wir, byddai Hilda a Ieuan yn hoff iawn o ddychwelyd i ardal Abertawe ar ymweliadau a buont yno mor ddiweddar â 2019. Wedyn, yn niwedd 1969 symud eto hefo gwaith Ieuan yn y Weinyddiaeth Amaeth i Ogledd Ddwyrain Cymru ac ymsefydlu yn Tŷ Isa, Trefnant, ger Dinbych. Diau i’r profiad o fyw mewn ardaloedd tra gwahanol hefo tafodieithoedd gwahanol iawn fod yn brofiad amheuthun i’r plant a’r rhieni.
Yn 1975, ar ymddeoliad rhieni Ieuan, dychwelodd y teulu i Cilcennus i ffermio’r hen gartref ynghyd â ffermydd eraill y teulu yn Nolwyddelan ac yna’n ddiweddarach yn Sir Fôn. Ac yno, yng Nghilcennus, y bu cartref Hilda a Ieuan o 1975 hyd 2007 pan ymddeolodd y ddau yn ôl unwaith eto i Tŷ Isaf, Dolwyddelan, am ryw ddwy flynedd cyn symud i Bwlch Cynnud, ar draws yr afon, yn yr un ardal yn 2009. Blynyddoedd o weithgarwch mawr fel gwraig fferm brysur a mam ac yn ddiweddarach nain ofalus o’i theulu. Ac ni esgeulusodd ei chymdeithas na’i chymuned ychwaith ar hyd y blynyddoedd. Wedi dychwelyd i Ddolwyddelan yn 2007 fe ymroes i gefnogi’n frwd weithgareddau cymdeithasol y pentref.
Yng Nghilcennus hefyd bu’n cynnig am flynyddoedd lawer wasanaeth Gwely a Brecwast llwyddiannus gan groesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd a phawb yn cael yr un croeso hael a rhadlon. Rhan o’r gyfrinach oedd fod gan Hilda ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl a’r gallu rhyfeddol i wneud pawb yn gartrefol yn ei chwmni ac ar ei haelwyd. Ac er i iechyd Ieuan ddirywio yn 1983 gan olygu mwy o gyfrifoldebau gofalu ni fennodd hynny ddim ar raslonrwydd cynhenid Hilda. Fel y pwysleisiodd y Parch Gerwyn Roberts yn y gwasanaeth angladdol roedd y gair ‘gofal’ yn un cwbl allweddol wrth gofio am ei bywyd ac amlygir hyn yn atgofion cyfareddol Buddug am ei nain.
Do, fe groesawyd ugeiniau o ymwelwyr i Gilcennus ac fe fu Hilda ac Ieuan hwythau yn ymwelwyr eu hunain pan oedd amgylchiadau’n caniatáu. Bu’r ddau ar wyliau ymhob un o wledydd Prydain yn eu tro yn ogystal â’r Iwerddon a chyfandir Ewrop a bu Hilda ar daith fythgofiadwy i Batagonia lle cafodd gyfarfod a rhai o’i theulu oedd yn frodorion yno. Hyn eto’n arddangos ei diddordeb byw, nid yn unig mewn pobl, ond hefyd mewn lleoedd arbennig. A doedd unman yn fwy arbennig iddi na meysydd Eisteddfodau ac ambell Ŵyl Gerdd Dant yn eu tro. Roedd wrth ei bodd yn cyfarfod pobl a chymdeithasu. Ond gofalu am fuddiannau’r teulu, ei gŵr a’r pedwar plentyn, ei hwyrion a’i hwyresau a’r gorwyrion a’r orwyres oedd yn flaenoriaeth bob amser. Mawr a didwyll yw’r cydymdeimlad â’r teulu cyfan yn eu colled a’u hiraeth. Yn ystod ei hwythnosau olaf roedd Hilda mor ddiolchgar am y gofal a gai gan ddweud : ‘Dwi’n cael fy nhrin fel Brenhines’. Dyna yn wir ydoedd, i’w theulu ac ar ei haelwyd.
Nain
Roedd yn ddigon hawdd bod yn ffrind i Nain, ac roedd ganddi lawer o ffrindiau. Roedd llawer ohonom yn meddwl amdani fel ein ffrind gorau. Does dim rhyfedd fod llawer ohonom yn meddwl amdani fel hyn, oherwydd ei bod mor hawdd sgwrsio gyda hi. Un o rinweddau gorau Nain oedd sgwrsio. Roedd hi’n dda am sgwrsio. Roedd ganddi ffordd o siarad oedd mor hawdd, sa’ chi’n medru siarad am oriau ar y ffôn. Doedd dim brys ac y byddai hi’n rhoi ei hamser i gyd i chi. Roedd siarad gyda Nain wastad yn codi calon rhywun, os yr oeddech chi mor lwcus a chael gafael arni. Yn aml, mi fase’n cymryd rhai dyddiau gan fod y ffôn o hyd yn brysur.
Mae gen i lawer o atgofion hapus o helpu ar fferm Cilcennus pan roeddwn yn fychan. Helpu gyda’r B+B, wel trio bod o help drwy gario platiau o frecwast wedi ei goginio o’r gegin i’r parlwr. Dwi’n cofio gweld y tomato yn llithro i ffwrdd o’r plât a glanio ar y llawr jest cyn cyrraedd bwrdd y bobl ddiarth. Wedyn yn gorfod mynd nôl at Nain a dweud beth oedd wedi digwydd yn meddwl y byddai hi’n flin, ond na, dyma hi yn chwipio un arall i fyny, dim trafferth!
Oni’n helpu gwneud y gwlâu, a mynd lawr i ‘Kwik Save’ gyda Nain yn aml i nôl mwy o fwyd i fwydo pawb, y teulu, y bobl ddiarth, y gweithwyr fferm. Roedd y tripia’ yna i ‘Kwik Save’ yn teimlo fel eu bod nhw’n cymryd oriau gan fod Nain yn gweld a nabod pawb ac yn rhoi amser i bawb. Roedd hi bob tro yn cyflwyno fi i bobl ac mi roeddwn yn hoffi hynny. Roedd yn gwneud i mi deimlo’n sbesial ac fy mod i gyda Nain gan ei bod hi mor boblogaidd. Yn wir, roedd hi’n enwog yn ei bro.
Roedd Nain yn coginio bwyd blasus iawn. Dywedodd Euros yn ddiweddar y byddai’n gallu bod yn bryd mor syml ond mor flasus. Meddyliwch am yr holl bobl y wnaeth hi goginio iddynt. Miloedd! A phawb yn cael yr un profiad o hapusrwydd o fwyta'r bwyd yr oedd Nain wedi ei goginio. Yr oedd yn edrych mor ddiymdrech â hawdd. Does neb yn gallu coginio bwyd cystal â Nain.
Un o hoff bethau Nain oedd Eisteddfodau a chael clywed y plant yn canu ac adrodd. Dwi’n cofio mynd i’r Eisteddfod gyda hi a’i chwaer Anti Luned. Roedd hi wrth ei bodd yn gwario dyddiau yn eistedd yn y pafiliwn, a phan nad oedd hi yn yr Eisteddfod mi fyddai yn gwario dyddiau o flaen y teledu yn gwylio'r perfformiadau. Un o atgofio’n minnau a Fflur oedd trio mynd a hufen ia Cadwaladr i Nain ac Anti Luned i mewn i'r pafiliwn poeth yn un o Eisteddfodau'r Urdd. Doedd dim gwerth o’r hufen ia ar ôl pan gyrhaeddom ni nhw.
Mi roedd Nain wrth ei bodd gyda plant, yn edrych ar eu holau ac i ddeud y gwir jest yn ei difetha nhw. Roeddem yn cael chwarae ymhob man yn y tŷ a’r fferm pan roeddem yn fychan - ond os roedd Nain yn rhybuddio ni i beidio gwneud rhywbeth roedd rhaid gwrando. Dim ond weithiau y byddai Nain yn deud y drefn i ystyried cymaint o gadw reiat yr oeddem ni’n gwneud.
Roedd rhywbeth i chwarae gyda fo bob tro yn nhŷ Nain ac yn ddiweddar wedi i mi gael plant fy hun roeddwn i yn gweld yr holl deganau yr oedd hi wedi casglu o’r siopau elusen. Roeddwn i wedi rhyfeddu ar un o’r pethau olaf yr oedd hi wedi prynu - sef beic i Idris fy mab gael reidio pan oedd yn Bwlch. Roedd Nain wastad yn meddwl am bobl eraill.
Mi wnaeth Nain ofalu am lawer o bobl dros y blynyddoedd. Ei gwaith cyntaf oedd edrych ar ôl gwraig a oedd wedi colli ei golwg ac wedyn ymlaen i Bryn Tân, Gwytherin ac yna i Moel yr Iwrch i edrych ar ôl ei Thaid. Mi edrychodd ar ôl ei mam yn ei henaint a hefyd gofalu am Taid ar hyd y blynyddoedd.
Yn ddiweddar roedd fy merch Carys ddim yn teimlo yn dda a gydag annwyd trwm. Roedd hi’n gorwedd ar y soffa yn teimlo’n sori drosti hun pan glywais i hi’n sibrwd wrthyf, ‘dwi isho Nain Bwlch’. Ia, nesi feddwl, dwi’n gwybod yn union be ti’n feddwl. Roedd gan Nain ffordd dyner o ofalu amdanom ni i gyd.
Yr oedd hi’n falch iawn ohonom ni i gyd. Ei phlant, wyrion, hwyresau, gor-wyrion a’i gor-wyres.
Mi nath hi rhoi gymaint o’i hamser a’i chariad i ni dros y blynyddoedd. Mi roedd hi’n meddwl y byd ohonom ni gyd.
Oedd hi’n fêts gyda ni gyd, ac yn hoff o siarad am yr hen ddyddiau ac hel straeon wrth warchod ni yn blant. Mi wnaethom ni gyd rhoi llawenydd iddi hi hefyd.
Ar y ffôn yr oedd hi’n aml yn siarad am Garmon. Roedd ganddi le arbennig iddo yn ei chalon.
Gyda'i thŷ clud, y tân yn rhuo a’i natur o sbwylio chi - y bwyd blasus a'r ffordd hawdd roedd ganddi o siarad gyda phobl. Doedd dim byd gwell na bod yn ei chwmni.
Diolch Nain gennym ni gyd, am yr holl atgofion hapus a'r fraint o gael bod yn rhan o’ch bywyd.
Fydd hiraeth mawr amdanoch chi Nain.
Nos da Nain, cysgwch yn dawel.
Buddug Elen
10/12/2020
