Y Bigwn

Jade Davies

Jade Davies

Jade Davies

 

Lle ti’n byw ar hyn o bryd?

Dwi ar hyn o bryd yn byw yn Llundain! Dwin mwynhau byw yma ond wastad wrth fy modd yn dod adre i Ddinbych.

 

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mae gen i lot o atgofion o wylio ffilms Disney. Roedd mam yn dweud fy mod yn canu a dawnsio i’r caneuon o hyd. Dwi’n meddwl dyna oedd y cychwyn i mi syrthio mewn cariad hefo’r byd Sioe Gerdd.

 

Beth oedd y cynhyrchiad diwethaf i ti wneud?

Y cynhyrchiad diwethaf nes i oedd ‘My Fair Lady’ allan yn yr Eidal! Roeddwn wastad eisiau gwneud sioe mewn gwlad gwahanol ac felly ‘roedd yn brofiad gwych.

 

Pwy hoffet ti weithio a pherfformio gyda a pham?

Byddwn wrth fy modd un diwrnod yn perfformio mewn sioe gyda fy chwaer Amber. Mae hi’n fy ysbrydoli bob dydd ac mi fyddai’n bleser cael gweithio gyda hi.

 

 Beth yw dy uchafbwynt gyrfa hyd yn hyn?

Fy uchafbwynt mwyaf dwi’n meddwl ydi bod mewn dwy sioe ar y West End! ‘Les Misérables’ a ‘Phantom of the Opera’. Does dim byd fel y teimlad o sefyll ar lwyfan mor fawr a chanu caneuon mor glasurol.

 

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

 Fy hoff lle yng Nghymru yw’r Wyddfa. Dwi wedi cerdded fyny hefo dad sawl gwaith.. a dwi methu aros i gerdded eto pan fyddai’n cael dod adre.

 

Lle wyt ti’n gweld dy hun mewn 10 mlynedd?

Dydw i ddim yn siwr lle fyddai mewn 10 mlynedd ond dwi’n gobeithio y byddaf dal i neud be dwi’n ei garu sef canu, dawnsio ag actio! Mae gen i sioeau dwi bron a torri’n mol eisio gwneud ac gyda’r gobeithio rhyw ddydd i’w perfformio.

Jade1Jade2Jade3