Y Bigwn

Cynhwysion

500g tomato wedi torri yn eu hanner

1 nionyn coch wedi ei dorri yn fan

6 tomato heulsych

Dŵr berw

Stoc llysiau

2 clof garlleg

1 pupur coch wedi ei dorri yn fan

Hufen sengl

Dull

  1. Cynheswch y popty i dymheredd o 180 ͦ c.
  2. Rhostiwch y 2 fath o domato, nionyn, garlleg a’r pupur ar din bobi gyda ychydig o olew olewydd, halen a pupur.
  3. Wedi i’r tomato goginio rhowch i mewn i sosban gyda dŵr a 1 ciwb o stoc llysiau.
  4. Fe allwch ychwanegu ychydig o jam chilli os ydych eisiau’r cawl yn fwy sbeislyd.
  5. Wedi i’r cawl ddod i ferw am 20 munud blendiwch y cawl nes ei fod yn esmwyth.
  6. Mae’n bwysig blasu’r cawl. Efallai bydd angen ychwanegu halen a phupur, llefrith neu ‘piwré’ tomato.