Cynhwysion
2 ffiled cyw iar
200g o fadarch
75 ml o hufen dwbl
Menyn hallt
Olew olewydd
Hanner nionyn
2 clof o garlleg
200g o Gnocchi
Dull
- Ychwanegwch ychydig o olew olewydd mewn padell ffrio a ffriwch y ddwy ffiled. Y mae’n bwysig rhoi digon o halen a phupur ar y cig.
- Mewn sosban, ychwanegwch dŵr berw a 200g o’r gnocchi. Unwaith y mae’r gnocchi wedi codi i arwyneb y dŵr y maent yn barod i’w ffrio.
- Defnyddiwch badell glan gyda nobyn o fenyn hallt ac ychydig o olew ac ychwanegwch y gnocchi nes ei bod yn euraidd a chreisionllyd.
- Y mae’n bywig troi y cyw iar er mwyn i’r ddwy ochr fod a chroen creisionllyd. Unwaith y mae’r cyw iar yn barod y mae’n bwysig gadael i’r cig orffwyso am 10 munud.
- Yn y cyfamser rydych angen coginio’r saws, Ychwanegwch hanner nionyn wedi ei dorri’r fan , 2 clof garlleg a’r madarch i sosban gyda nobyn bach o fenyn hallt.
- Gadewch i’r cynhwysion goginio nes eu bod yn euaridd mewn lliw, wedi hynny ychwanegwch yr hufen dwbl. Gadewch i’r saws fudferwi.
- Ychwanegwch bupur a halen i flasu.
- Fe allwch weini’r pryd gyda pys, asparagws neu brocoli.
