Cynhwysion
2 llwy fwrdd o Cocoa
120g o siocled tywyll
120g o fenyn di hallt
2 wy a 2 melynwy
120g o siwgr man
1 llwy fwrdd o flawd plaen
Dull
- Cynheswch y popty i 200 ͦ c a rhowch y tin pobi yn y popty.
- Wedi i chi doddi ychydig o fenyn brwsiwch y menyn o amgylch 5 mowld pwdin, gorchuddiwch gyda coco er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r gymysgedd yn glynu i’r ymylon.
- Rhowch y menyn a’r siocled mewn bowlen dros ddŵr poeth er mwyn ei doddi. Gadewch iddo oeri. Cymysgwch yr wyau, melynwy, siwgr, gyda cymysgu trydan am 3-4 munud nes ei fod fel ‘mousse’ ac yn olau.
- Ychwanegwch y siocled a’r menyn i’r fowlen ac yna’r blawd. Cymysgwch yn ofalus.
- Rhowch y gymysgedd yn y mowldiau a’u rhoi yn yr oergell am awr.
- Rhowch y ffondant siocled ar yr tin pobi cynnes sydd wedi ei gynhesu. Coginiwch am 12-14 munud.
- Tynnwch y ffondant allan o’r popty, a gadewch iddyn nhw sefyll am 30 eiliad cyn ei thynnu allan o’r mowldiau.
