Ar Nos Sadwrn, Chwefror 29ain cynhaliwyd Swper Gwyl Dewi Cymdeithas Gymraeg Dinbych yn y Clwb Golff hefo 25 yn bresennol.
Croesawyd pawb gan ein darpar-lywydd Martha Cordiner a Tom Williams, ein trysorydd, oedd yn gofyn gras bwyd.
Wedi mwynhau gwledd 3 chwrs a phaned, cawsom adloniant arbennig gan ein gŵr gwadd Ieuan ap Sion. Dyma’r trydydd tro i ni geisio cael cwmni Ieuan – bu’n rhaid canslo oherwydd tywydd yn 2018 a bu ffwndro o ran y dyddiad yn 2019 – ond yr oedd yn werth aros!
Soniwyd am Wobr Goffa Lady Herbert Lewis a dau o gyn-enillwyr y wobr yn y swper, sef Leah Owen ac Edryd Williams. Edryd yw partner Ann Catrin Evans, gwneuthurwraig Coron Eisteddfod yr Urdd a braf oedd croesawu Ann i’r swper hefyd.
Diolchwyd i bawb ar y terfyn gan Martha gan gynnwys yr amrywiol swyddogion a staff y Clwb Golff.
Fel Cymdeithas, yr ydym yn drist iawn o golli un arall o’n is-lywyddion anrhydeddus trwy farwolaeth Elwy Davies. Bu yn ffyddlon, yn wasanaethgar a chefnogol i’r Gymdeithas hyd y gallai. Yr ydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Iona a’r teulu oll.
Dilwyn Jones Ysg.
