Er nad ydw i’n ddarllenwr toreithiog fel ambell un o’r teulu acw, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i ar hyd y blynyddoedd wedi mwynhau darllen llyfrau yn y ddwy iaith.
Ar adegau hunangofiannau fydd yn mynd â fy mryd, ac ar adegau eraill nofelau neu gyfrolau o farddoniaeth. Ar adegau prin iawn rydwi’n llwyddo i gael gafael ar lyfrau sydd yn gwneud imi chwerthin yn uchel.
Cyfnod hunangofiannau fu hi’n ddiweddar, a bu’n gyfnod pleserus iawn.
Wna i ddim enwi’r llyfrau am ddau reswm.
Yn gyntaf, does yna ddim byd gwaeth na rhywun yn d’eud wrthach chi fod yn rhaid i chi ddarllen rhyw lyfr arbennig. Chewch chi ddim byd ond eich siomi ar ôl canmoliaeth o’r fath.
Yn ail, dydwi ddim am weld golygydd Y Bigwn o flaen ei well nac am bechu unrhyw un sydd wedi bod mor ddewr â chyflwyno hanes ei fywyd ar bapur.
‘Dach weld mae gen i gŵyn am un agwedd o’r hunangofiannau hyn – y lluniau sydd ynddyn nhw.
Rydwi’n croesawu gweld lluniau ynddyn nhw - peidiwch â’m camddeall i - ond dydwi ddim yn gweld pwynt mewn cynnwys lluniau sydd fawr mwy na stamp ac a dynnwyd hanner can mlynedd a mwy yn ôl gyda chamera bocs Brownie.
Ac yn amlach na pheidio ceir lluniau o grwpiau o bobl sydd yn gofyn am chwyddwydr go gryf os ydach chi am adnabod unrhyw un.
Oes yna bwynt cynnwys y fath luniau?
Dim ond gofyn ydw i.
A dim ond gofyn ydw i... pam nad ydy rhai modurwyr yn dilyn y canllawiau ynglŷn â mynd i mewn ac allan o brif faes parcio’r dref?
Mae’r saethau a’r geiriau yn glir ac er hwylustod i bawb sydd yn defnyddio’r lle. Felly da chi dilynwch nhw.
Gyrwyr eraill sydd yn dân ar fy nghroen ydy’ perchnogion ceir sydd yn ceisio gyrru heb bwt o olau ar eu car a hithau rhwng dau olau.... neu, yn waeth fyth, yn niwl trwchus.
Yn amlach na pheidio, maen nhw’n gyrru car llwyd.
Ystyriwch o ddifrif, bobl.
Ac i gloi, os gwelwch yn dda, chwi fodurwyr peidiwch â pharcio’ch car yn union gyferbyn â mynedfa tŷ rhywun arall, Byddwch yn ystyrlon.
Wel, ar ôl cael bwrw mol fel yna, rydwi’n teimlo’n well o’r hanner.
Mae’n debyg eich bod chi wedi sylwi nad ydw i wedi cyfeirio at y coronafeirws.
Wel, wrth imi ysgrifennu’r pwt hwn ynghanol mis Mawrth, dwn i ddim a fydd y golofn hon yn gweld golau dydd.
Does ond gobeithio na fydd geiriau’r proffwydi gwae yn cael eu gwireddu.
Stan Lyall
