Y Bigwn

Fy enw yw Sian Williams. Dwi'n gweithio ar raglen bywyd gwledig newydd sbon i Radio Cymru ar hyn o bryd. Fydd e fel rhyw fath o raglen Countryfile / Cefn Gwlad. Felly ar hyn o bryd dwi'n ymchwilio mewn i amryw o ardaloedd gwledig i gasglu gymaint o straeon/cymeriadau a phosib. 

Mae'r pethau dwi'n edrych am yn amrywio'n fawr gan fod bywyd gwledig mor amrywiol ond e.e dwi'n edrych am hen gymeriadau gwledig, ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio, rhywun o'r wlad sydd wedi ennill gwobr arbennig neu sy'n weithgar iawn o fewn y gymuned, rhywun sy'n berchen ar fusnes sy'n gwneud yn dda, rhywun sy'n hoff o bysgota, cerdded, neu  da unrhyw fath o ddiddordeb gwledig. Mae unrhyw beth yn gallu ffitio mewn i'r rhaglen yma i dwued y gwir! Ond ni'n bennaf yn edrych am y cymeriadau yna ac am y straeon gwahanol yna sy'n portreadu cefn gwlad Cymru.

Fydde'n i'n ddiolchgar am unrhyw fath o help.

Diolch,

Sian.