Y Bigwn

Adeg Nadolig 2018 daeth cyfnod hapus Cymdeithas Gorawl Dinbych a'r Cylch i ben gyda Chyngerdd y Nadolig yn Neuadd y Dref, Dinbych. Fel pob cyngerdd o'r blaen, roedd hwn yn llwyddiant. Ond roedd 'na dristwch hefyd wrth sylweddoli mai hwn fyddai'r tro olaf i ni gyd-ganu o dan arweiniad medrus Beryl Lloyd Roberts ac i gyfeiliant sicr Tim Stuart.

 

Ffurfiwyd y côr ym mis Medi 2001 yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cylch. Roeddem yn cyfarfod pryd hynny yn y Capel Mawr yn Ninbych ac fe ddaeth dros gant i ymaelodi. Beryl oedd yr arweinydd o'r dechrau ac fe ffurfiwyd pwyllgor yn syth gyda dau aelod o bob llais. Naturiol iawn oedd i Wendy ymgymryd â'r gwaith ysgrifennydd oherwydd ei phrofiad helaeth gyda'r Eisteddfod, a Glyn Jones, cyn-reolwr banc, i ofalu am y cyllid. Fel pwyllgor, y mater cyntaf oedd “Y Cyfansoddiad”, a bu llawer o drafodaeth a chynllunio ar hwn, roedd rhaid cael popeth i lythyren y ddeddf. Fe lwyddwyd a phenderfynwyd mai prif amcan y côr fyddai cael mwyniant wrth ddysgu ystod eang o weithiau gan amrywiol gyfansoddwyr. Beryl oedd i ddewis y rhain a pharatoi at ddau gyngerdd bob blwyddyn – Y Nadolig a'r Pasg. Fe wnaeth hyn gyda'r graen arferol. Ei dymuniad oedd rhoi cyfle i gantorion ac offerynwyr ifanc yn ogystal â rhai profiadol i ddod atom i berfformio. Braf yw gweld y rhai ifanc hyn yn llwyddo yn eu gyrfaoedd.

Cawsom gyngherddau i'w cofio a'u trysori, a chefnogaeth dda iawn bob amser. Daeth Neuadd y Dref, Dinbych yn gartref i ni ymarfer ac i lawer cyngerdd. Buom yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy nifer o weithiau a chael canu i gyfeiliant Cerddorfa Siambr sawl tro, oedd yn brofiad gwahanol i gyfeiliant organ neu biano.

Do, fe gawsom lu o brofiadau a sawl her o dan arweiniad Beryl ac fe ddysgom am arddull gwahanol gyfansoddwyr. Roedd Beryl yn berffeithydd yn ei gwaith ac roedd yn disgwyl safon uchel iawn gan y côr ar bob achlysur. Fe weithiodd yn galed ac fe lwyddodd. Mawr yw ein diolch iddi am yr ymroddiad ar hyd y blynyddoedd. Mae colled fawr ar ôl y côr ond fe wnaethom ffrindiau lu a bydded i hynny barhau.

Ar hyd y blynyddoedd roedd ein cyngherddau yn dod ag elw i'r coffrau ac yn ein galluogi i gyfrannu i wahanol elusennau. Codwyd dros £20,000 i gyd a'r elusennau lleol canlynol a elwodd:
Sant Cyndeyrn, Uned Cancr ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd, Uned Llygaid Ysbyty Abergele, Tŷ Gobaith, Gofal Dydd Waungoleugoed a Chronfa Osian.
Fe gyfranwyd hefyd at Ambiwlans Awyr Cymru, Ysbyty Walton, Sefydliad MacMillan a Marie Curie, Cronfa Ron Smith, Cronfa Achub y Plant, Awtistiaeth Gogledd Cymru, Motor Neurone, Tenovus a Rhiwmatoleg.
Gofalwyd am wobrau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol, Yr Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yn Nyffryn Clwyd.

Erbyn hyn “diolch yw ein cân” - i'r holl gantorion am eu ffyddlondeb ar hyd y daith ac am y cyd-weithio hapus a chyfeillgar ar hyd y blynyddoedd. Bu'r pwyllgor yn sefydlog a chytûn o'r dechrau a chawsom arweiniad cadarn amrywiol Gadeiryddion. Ar ôl i Glyn, ein trysorydd ymddeol o'r côr oherwydd gwaeledd, daeth Hâf i lenwi'r bwlch a chario mlaen â'r gwaith da hyd y diwedd. Ni ellid fod wedi cael ysgrifennydd gwell na Wendy, a chyda chymorth Dafydd ei gŵr roeddynt yn cadw trefn ar bopeth a pharatoi at bob achlysur – gwaith nad oeddem fel cantorion yn ymwybodol ohono, a hynny gyda gwên bob amser. “Halen y ddaear, y ddau ohonoch”
Roedd trefn i bob ymarfer gyda Beryl a phleser oedd ei gwylio yn dysgu y gwahanol adrannau yn drylwyr cyn dod a'r lleisiau at ei gilydd i gyfeiliant Tim. Roedd y ddau yn deall ei gilydd i'r dim ac roeddem mor ffodus o'u cael. Rhaid oedd cyrraedd y safon uchaf bob tro. Braf oedd cael bod yn aelod o'r côr yma a DIOLCH am yr holl a gafwyd.