Y Bigwn

Cymdeithas Caledfryn Martyn yn ei ficrolight

Martyn Blythin, cyn brifathro Ysgol Bodnant, Prestatyn oedd gŵr gwadd a siaradwr mis Chwefror. Testun ei sgwrs oedd ‘Yn yr awyr.’
Bu awyrennau a hedfan yng ngwaed Martyn ers yn blentyn. Ar gae fferm yn Nhalacre y gwelodd awyren oedd wedi disgyn o’r awyr. Hoffai ymweld â maes awyr Manceinion ac “arogli’r tanwydd.” Yna yn 1966 hedfanodd am y tro cyntaf ar Syrian Arab Airline.
Roedd ei dad yn beiriannydd yn yr Awyrlu ac fe’i hanrhydeddwyd gyda’r D.F.M. am ei ddewrder yn hedfan Lancaster bomber yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymddeolodd Martyn o’r byd addysg wyth mlynedd yn ôl a gwireddu breuddwyd – dysgodd sut i hedfan awyren microlight a hynny o faes awyr Caernarfon. Glaniodd yn llwyddiannus ym Mhenmaenmawr am y tro cyntaf ar ei ben ei hun.

 

Cymdeithas Caledfryn Martyn ac Eric Jones

Awyren ysgafn pedwar silindr yw’r microlight sy’n defnyddio 12 litr o betrol yr awr ac yn cyrraedd cyflymder o rhwng 60 a 80 milltir yr awr ac uchder o 8,000 o droedfeddi. Mae lle i ddau yn yr awyren fechan ac fe gofia Martyn y dringwr adnabyddus, Eric Jones, yn eistedd y tu ôl iddo yn y microlight a’r ddau yn hedfan uwchben copaon Eryri. Yn amlach na heb mae Martyn yn hedfan ar ei ben ei hun yn ei wisg drwchus rhag y gwynt a’i helmed. Does dim parasiwt ganddo ond mae ganddo radio er mwyn cysylltu â’r ddaear.
Soniodd Martyn ei fod yn hedfan yn aml uwchben mynyddoedd Eryri gan fwynhau golygfeydd godidog a welsom ganddo ar y sgrin fawr.
A gafodd Martyn bwl o ofn a methu â glanio rhyw dro? Ateb Martyn oedd ‘Na’ oherwydd fel rhan o’i hyfforddiant, roedd wedi cael arweiniad ar sut i lanio heb bŵer.

 

Llywyddwyd y cyfarfod gan Richard Snelson sy’n adnabod Martyn a Richard a dalodd y diolchiadau. Bu ymateb ffafriol iawn i’r sgwrs gan y gynulleidfa ac fe ofynnwyd sawl cwestiwn diddorol. Does dim gwirionedd fod rhai aelodau wedi gwirfoddoli hedfan efo Martyn!

Noson ddifyr iawn. Roedd gennym edmygedd mawr o ddewrder a gallu Martyn yn ei ficrolight.