
John Barr oedd ein siaradwr gwadd ar gyfer darlith mis Chwefror a chawsom noson ddifyr yn clywed am Adeiladu Twnel Conwy. Mae John yn beiriannydd sifil, a fo oedd yn gyfrifol am y prosiect rhyfeddol yma. Eglurodd mai dylunio, creu a chynnal yr hyn sydd wedi cael ei adeiladu o’n cwmpas yw Peirianneg Sifil. Disgrifiodd y broses o balu ffos ar draws gwely’r foryd a chadw’r dŵr allan. Mewn basn bwrw ar y tir (oedd yn ddigon dwfn i lyncu tref gaerog Conwy), cynhyrchwyd chwe twnel allan o 30,000 tunnell o goncrit cyfnerth, a’u lapio â haenen ddur ar dair ochr a bitumen ar y bedwaredd. Cawsant eu harnofio allan i’w lle, a’u suddo i’r ffos a’u cysylltu. Roedd rhaid arllwys concrit i mewn iddynt i’w cadw nhw ar y gwaelod a roedd system gymhleth o’u selio i rwystro dŵr rhag dod i mewn. Gellir gwylio’r broses ar “The Conwy Tunnel Project” ar YouTube. Roedd rhaid goresgyn nifer o broblemau annisgwyl, gan gynnwys stormydd a daeareg wahanol i’r disgwyl yn y dwyrain. Gollyngwyd ychydig o’r gwaddod a godwyd wrth greu’r ffos yn y môr wrth Amlwch, ac wrth law i greu gwarchodfa natur yr RSPB. Ni amharwyd ar y tirlun mewn unrhyw ffordd a chafwyd marina newydd lle roedd y basn bwrw. Agorwyd y twnel ym mis Hydref 1991. Prif atgof personol y prosiect i John oedd y ffaith bod disgybl mewn ysgol gyfagos wedi bod yn gwylio’r gwaith yn mynd yn ei flaen, ac wedi penderfynu dilyn gyrfa fel peiriannydd sifil.

Diolch i bawb a gefnogodd ein Bore Coffi diweddar yn yr Amgueddfa. Cafwyd amser hyfryd yn cymdeithasu ac yn mwynhau’r cacennau.

Martyn a David yn ceisio trwsio'r gramaffon Edison...

..ac yn llwyddo, diolch i ddiferyn o olew, nodwydd newydd a nyt a bollt.
Rhoddwyd y gramoffôn yma i filwr o Lanrwst gan swyddog ei gatrawd ar ddiwedd y Rhyfel Byd cyntaf. Treuliodd y blynyddoedd yn fferm Merchlyn tan iddo gael ei roi i David Jones, sylfaenydd ein hamgueddfa, ar gyfer ei gasgliad.
Gobeithir cynnal Bore Coffi’r Haf yn Eirianfa ar Fehefin 6ed, 10.00, ar y cyd â Mind Dyffryn Clwyd a Gild St. Thomas. Bydd ‘na amrywiaeth o stondinau, gan gynnwys stondin blanhigion, a the hufen. Croeso cynnes i bawb!
Gobeithiwn hefyd y bydd Eurig Jones yn dod i siarad â ni am “Ein Harfordir Gwyllt” ym mis Mehefin. Edrychwch ar ein gwefan am gadarnhad.
