Fel nifer o elusennau a mudiadau dyngarol eraill, mae Cymorth Cristnogol yn wynebu cyfnod cythryblus ac argyfyngus. Mae sawl rheswm am hyn, ond yn ymarferol mae’n golygu newidiadau i staff cyswllt yr elusen ac hefyd cau y swyddfeydd rhanbarthol ar draws Cymru a chael un wedi ei leoli yn y swyddfa genedlaethol yng Nghaerdydd. Gall hyn olygu fod bron i 200 o staff mewn perygl o golli eu swyddi. A hyn i gyd cyn i’r pryderon am Coronafeirws ddechrau cael effaith mor ddifrifol ar fywydau dyddiol pob un ohonom.
Felly, ar adeg mor bryderus, braf oedd gweld cynifer yn Eglwys Sant Thomas unwaith eto eleni i ddathlu dydd Mawrth Ynyd. Mae’r Noson Grempog wedi dod yn rhan o galendr blynyddol Cymorth Cristnogol yn Ninbych ers rhai blynyddoedd, ac roedd mwy na digon o grempog i bawb, yn ogystal â danteithion megis cacenni cri, sgons a bara brith wedi eu cyfrannu gan aelodau’r pwyllgor a’r gwahanol eglwysi.
Fel pob blwyddyn arall, y Parchedig Anna Jane Evans, Cydlynydd Rhanbarthol Gogledd Cymru oedd y gwestai arbennig, ac er iddi hi gyfaddef ei bod yn digalonni ac anobeithio ar adegau, ac yn ei chael hi’n anodd gwylio’r newyddion y dyddiau hyn, cafodd pawb oedd yn bresennol eu hysbrydoli ganddi unwaith eto. Soniodd yn benodol am Rose o Kenya, sydd, fel miliynau yn y wlad honno, angen pob diferyn o ddŵr sydd ar gael er mwyn goroesi cyfnodau o sychder, cyfnodau sy’n llawer mwy niferus a dwys nag yn y gorffennol oherwydd newid hinsawdd. Dangosodd Anna Jane fod ein cyfraniadau bychan ni yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i bobl fel Rose, eu teuluoedd a’u cymdogion – yn yr achos hwn drwy alluogi ei chymuned i adeiladu argae pridd i gronni’r dŵr pan ddaw’r glaw prin.
Gwnaethpwyd elw o £380 ar y noson, gyda £93.70 wedi ei godi ar y stondin Masnach Deg, sy’n dangos beth gellir ei gyflawni pan ddaw gwahanol eglwysi’r dref at ei gilydd, beth bynnag eu henwad na’u hiaith. Fel ddywedodd rhywun rywbryd, “Gwnewch y pethau bychain.”
Hoffai’r pwyllgor lleol ddiolch o galon i’r Geids a’u harweinwyr am helpu gyda’r gweini ac hefyd am ofalu am y stondin Masnach Deg.
Yn ogystal, roedd Eglwys y Santes Fair wedi trefnu Cinio Cynnil bob dydd Gwener yn ystod cyfnod Y Grawys i godi arian tuag at Cymorth Cristnogol. Yn anffodus, oherwydd yr argyfwng Cornoafeirws, dim ond tri cinio gynhaliwyd cyn canslo’r gweddill.
John Davies
Stondin Masnach Deg

Pawb yn cynnwys y geids yn mwynhau crempog

Geids Dinbych
Anna Jane yn ein hysbrydoli
